Eluned Morgan eisiau bod yn arweinydd Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan wedi cadarnhau ei bod hi eisiau ymuno yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, er iddi fethu 芒 chael cefnogaeth gan aelodau Cynulliad eraill y blaid hyd yma.
Dywedodd mai hi oedd yr ymgeisydd oedd yn cynrychioli newid yn yr etholiad i olynu Carwyn Jones.
Ond dyw hi ddim yn credu bod rhaid i'r arweinydd newydd fedru siarad Cymraeg, gan "na fyddai hynny'n deg ar y boblogaeth".
Yn wahanol i'w gwrthwynebwyr, a , does ganddi'r un AC arall yn ei chefnogi'n gyhoeddus.
Mae angen enwebiadau gan bum aelod arall er mwyn sefyll fel ymgeisydd.
Dim ond Mr Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, sydd 芒 digon o gefnogaeth ar hyn o bryd.
'Profiad' o Ewrop
"Dwi'n meddwl bydde fi'n yn yr un math o sefyllfa a Mark Drakeford - felly centre left. Mae hwnna'n safbwynt dwi wedi cael erioed," meddai Ms Morgan.
Dywedodd hefyd y byddai tyfu'r economi er mwyn trechu tlodi yn rhan ganolog o'i hymgyrch.
Fe ddywedodd Ms Morgan, sy'n aelod o D欧'r Arglwyddi a chyn-aelod o Senedd Ewrop, nad oedd hi wedi gofyn i ACau ei henwebu.
Mae'r etholiad yn gyfle i Lafur adnewyddu yn dilyn bron 20 mlynedd wrth y llyw, meddai.
Ar raglen y Post Cyntaf fore Mawrth dywedodd Ms Morgan: "Rwy'n aelod newydd i'r Cynulliad ond mae gen i lot fawr o brofiad y tu hwnt i'r Bae.
"Dwi'n credu fod e'n bwysig bo fi'n gallu dod 芒'r profiad yna o Senedd Ewrop...o D欧'r Arglwyddi.
"Y prif beth fydd yn wynebu ni yn y blynyddoedd nesa' yw Brexit, ac mae'r 15 mlynedd fues i ym Mrwsel yn golygu bo fi 芒 dealltwriaeth o'r effaith mae e'n mynd i gael ar economi Cymru."
Dim angen medru'r Gymraeg
Ond pan ofynnwyd iddi a oes angen i'r arweinydd, sef y prif weinidog, fedru siarad Cymraeg ei hateb oedd: "Na dwi ddim yn meddwl bod e'n angenrheidiol.
"Bydde fe'n help wrth gwrs, ond ddim yn angenrheidiol.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n wlad lle mae 80% o'r bobl ddim yn siarad Cymraeg, a dwi'n meddwl bydde hynny'n cyfyngu ar nifer y bobl fydde'n gallu rhoi eu henwau ymlaen.
"Dwi ddim yn meddwl bydde hynny'n deg ar y boblogaeth."
Newid y system ethol
Ym mis Ebrill fe wnaeth Ms Morgan ofyn i aelodau cyffredin y blaid rannu eu syniadau ar gyfer polis茂au.
Bydd yr ymateb i'w gwahoddiad yn helpu ffurfio "maniffesto'r bobl", meddai Ms Morgan, gan ychwanegu: "Ar y sail yna fe fyddaf yn gofyn am gefnogaeth ffurfiol gan aelodau Cynulliad eraill cyn diwedd yr haf."
Dywedodd Ms Morgan hefyd y dylai Llafur Cymru newid y ffordd mae'n ethol arweinwyr.
Dan reolau coleg etholiadol y blaid, mae'n bosib bydd yr enillydd yn cael ei ethol heb fwyafrif o bleidleisiau gan aelodau cyffredin.
Mae gwrthwynebwyr i'r system yma - gan gynnwys Mr Drakeford - eisiau i Lafur Cymru defnyddio'r drefn un bleidlais i bob aelod, fel sydd wedi digwydd mewn etholiadau'r blaid ar lefel Prydeinig ers 2015.
Dywedodd Ms Morgan y dylai Llafur Cymru wneud yr un peth, ond bod angen gwarchod llais yr undebau llafur o fewn y drefn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018