大象传媒

Trethdalwyr yn talu 拢400,000 i redeg stiwdio Pinewood

  • Cyhoeddwyd
Pinewood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r llywodraeth nawr yn talu Pinewood i redeg y stiwdio yng Ngwynll诺g

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn talu Pinewood i reoli'r stiwdio ffilm a theledu yr oedd y cwmni yn arfer talu prydles amdani, yn 么l archwilwyr.

Yn 么l adroddiad gan y Swyddfa Archwilio, dyw'r galw disgwyliedig am ddefnyddio Stiwdio Pinewood Cymru, agorwyd yn 2015, ddim wedi dwyn ffrwyth.

Fe ddaeth swyddogion 芒'r brydles i ben y llynedd wedi iddi ddod i'r amlwg bod y stiwdio yn rhedeg ar golled, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwario 拢9.4m ar brynu a datblygu'r lle ar gyfer Pinewood.

Mae cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, Bethan Sayed, yn dweud bod y sefyllfa'n "bryderus".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "parhau'n falch o'n cysylltiad gyda Pinewood".

Dechrau gwneud colled

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cydnabod nad yw'r gost o redeg y lle yn rhoi gwerth am arian - gydag amcan ffigwr o 拢392,000 y flwyddyn yn cael ei dalu gan y llywodraeth i redeg y lle, yn ogystal 芒 swm ychwanegol i Pinewood am reoli'r stiwdio.

Ond yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r trefniant newydd gyda Pinewood yn well na gadael y lle yn wag tra'n chwilio am denantiaid newydd.

Roedd disgwyl i brydles wreiddiol Pinewood bara 15 mlynedd, ond wedi iddyn nhw ddechrau talu rhent o 拢546,876 y flwyddyn wedi i'w dwy flynedd ddi-d芒l yn y safle ddod i ben, fe ddechreuodd y cwmni wneud colled.

Symudodd Pinewood i'r hen Ganolfan Egni yng Ngwynll诺g yn 2015, ar 么l i Lywodraeth Cymru brynu'r safle.

Ymhlith y cynyrchiadau i ddefnyddio'r stiwdio ers hynny mae Showdogs, Journey's End, drama deledu Sherlock a'r Bastard Executioner.

Disgrifiad,

Bydd Dafydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant yn darllen yr adroddiad yn "ofalus" meddai

Cronfa 拢30m

Yn yr adroddiad mae Pinewood yn honni bod agor Wolf Studios Wales ar safle sydd hefyd ar brydles gan Lywodraeth Cymru, wedi cael effaith andwyol ar eu stiwdio - er bod y llywodraeth yn amau hynny.

Yn ogystal 芒'r cytundeb i rentu'r stiwdio, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi Cronfa Buddsoddiad Cyfryngol gwerth 拢30m yn nwylo Pinewood.

Mae'r gronfa wedi buddsoddi 拢13.7m mewn 14 o brosiectau teledu, ffilm, a gemau ers ei lansio yn 2014.

Mae 拢4.2m bellach wedi ei ad-dalu, ond mae 拢9.5m yn weddill - er bod nifer o brosiectau eto i'w cynhyrchu a'u rhyddhau.

'Y cyfan yn fethiant'

Yn y cyfamser, mae pryderon wedi eu codi nad yw'r gronfa wedi arwain at y buddsoddiad preifat disgwyliedig, bod Pinewood wedi bod yn buddsoddi mewn cynlluniau risg uchel, a bod risg o wrthdaro buddiannau wrth i Pinewood ariannu cynyrchiadau.

Ym mis Hydref y llynedd, yn dilyn trafodaethau 芒 Llywodraeth Cymru, daeth y brydles i ben yn ogystal ag ymwneud Pinewood 芒'r gronfa.

Tri mis yn ddiweddarach daeth cytundeb newydd tair blynedd i rym, gyda Pinewood nawr yn darparu gwasanaethau rheoli dros y stiwdio.

Yn 么l llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr, Suzy Davies, mae'r cyfan wedi bod yn fethiant.

"Yr addewid oedd cannoedd o swyddi a miliynau i'r economi Gymreig," meddai.

"Nawr mae'n amheuon ni wedi eu cadarnhau gan yr archwilydd - doedd Pinewood ddim yn gallu dod o hyd i'r ffilmiau, yn methu llenwi'r stiwdios, a does dim swyddi cynaliadwy.

"A doedd dim gwarant o fewn y cytundeb a Llywodraeth Cymru i atal gwrthdaro buddiannau."

'Balch o'r cysylltiad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd ein penderfyniad i ddod 芒 Pinewood i Gymru a chartrefu stiwdio o'r maint a'r statws yma ei gydnabod yn eang yn 2014 fel cyfle economaidd sylweddol na allai Cymru fforddio ei wrthod.

"Ry'n ni'n parhau'n falch o'n cysylltiad gyda Pinewood, ac o'r stiwdio sydd ar hyn o bryd yn gweithredu i'w llawn allu ac yn gartref i Dr Who, cynhyrchiad teledu arall a ffilm.

"Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae'r diwydiant wedi gweld cynyrchiadau ffilm a theledu sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - gan gynnwys rhai Pinewood - yn gwario mwy na 拢100m yng Nghymru gan greu'r hyn sy'n cyfateb i dros 2000 o flynyddoedd o waith yma, ac sydd wedi bod o fudd i gannoedd o fusnesau a chadwyni cyflenwi lleol."

Doedd Pinewood ddim am wneud sylw.