大象传媒

Gorfodi awdurdodau i uno yn 'tanseilio gwasanaethau'

  • Cyhoeddwyd
Sir Ddinbych

Mae cynghorwyr Sir Ddinbych yn dweud y byddai gorfodi awdurdodau lleol i uno yn "tanseilio gwasanaethau".

Bu aelodau o'r cyngor yn trafod eu hymateb i gynigion Llywodraeth Cymru i newid siroedd mewn cyfarfod ddydd Llun.

Yn 么l yr arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, mae'r toriadau i'w cyllideb yn golygu bod angen i'r awdurdod "ffocysu ar wasanaethau".

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y cynllun ad-drefnu yn gyfle i ganolbwyntio ar "rym trawsnewidiol" llywodraeth leol.

Mae'r ymgynghoriad ar y cynlluniau yn cau ddydd Mawrth.

'Toriadau'

Fe gyflwynodd siroedd Dinbych a Chonwy gynlluniau i uno'n wirfoddol pan oedd cyfle i wneud hynny yn 2014.

Cafodd y rheiny eu gwrthod ar y pryd, ond gyda'r syniad o uno yn 么l ar yr agenda, dywedodd yr arweinydd nad oes modd gwneud hynny wedi toriadau.

"Cyn y toriadau o 拢30m... falle y basen ni wedi gallu gwneud rhywbeth," meddai Mr Evans.

"Ond mae'r toriadau yn rhan fawr. 'Da ni yma i ddarparu gwasanaethau lleol i bobl Sir Ddinbych, ac mae hynny'n mynd yn fwy anodd bob blwyddyn, felly rhaid i ffocws gwaith y sir fod ar hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Hugh Evans bod y cyngor wedi gweld toriadau o 拢30m

Mae cynghorau ar draws Cymru wedi mynegi gwrthwynebiad i'r cynlluniau, gan gynnwys aelodau ym M么n yr wythnos ddiwethaf.

Mewn cyfarfod tanbaid ym mis Mawrth fe wnaeth arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Debbie Wilcox, gyhuddo'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies, o ailgylchu hen syniad o gwtogi nifer y cynghorau o 22 i 10.

Dywedodd hi hefyd fod cynghorau wedi "gwneud yr holl waith caled ar doriadau yng Nghymru" yn ystod wyth mlynedd o lymder.

'Bwlio'

Yn eu hymateb, mae cynghorwyr Sir Ddinbych - oedd 芒 chefnogaeth drawsbleidiol i'w datganiad - yn nodi "na holwyd unrhyw gwestiwn, ac na geisiwyd barn yn benodol, ynghylch yr achos dros newid" ac yn dweud eu bod yn tybio "fod y llywodraeth wedi penderfynu bwrw ymlaen 芒'r polisi o uno".

Dywedodd arweinydd gr诺p Plaid Cymru ar y cyngor fod y llywodraeth "yn trio bwlio".

"Maen nhw wedi rhoi tri opsiwn i ni - hynny ydy, gorfodaeth, neu ei wneud o'n wirfoddol," meddai Arwel Roberts.

"Maen nhw'n trio ein bwlio ni i fynd efo'u hargymhellion nhw, a dwi'n anghytuno 100% 芒 hynny."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein hymgynghoriad ar gynigion i gryfhau llywodraeth leol yn cau yr wythnos hon.

"Mae'n gyfle pwysig i ganolbwyntio ar rym trawsnewidiol llywodraeth leol yng Nghymru ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymateb yn adeiladol i'r cynigion a chynnig eu safbwyntiau."