Betsan Powys yn gadael fel golygydd Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Betsan Powys wedi cyhoeddi ei bod yn gadael ei r么l fel golygydd Radio Cymru.
Bu'n arwain yr orsaf ers pum mlynedd, gan oruchwylio cyfnod o newid mawr.
Cyn cymryd yr awenau gyda'r orsaf bu'n gyflwynydd Newyddion ar S4C i'r 大象传媒, gan hefyd weithio ar ystod eang o raglenni newyddion i'r gorfforaeth fel Panorama a Week In Week Out.
Ar 么l cyfnod gyda ITV Cymru dychwelodd i'r 大象传媒 gan ennill Newyddiadurwr Cymreig y Flwyddyn.
Bu hefyd yn gyfrifol am gynnyrch newyddion gwleidyddol 大象传媒 Cymru o 2006.
Dywed Betsan Powys: "Dwi wedi mwynhau bob her, ar ac oddi ar y sgrin, bob trafodaeth greadigol, bob cyfle fel newyddiadurwraig yma'n 大象传媒 Cymru ar hyd y blynyddoedd a chyda criw Y Byd ar Bedwar yn HTV Cymru.
"Bob cyfle i gynnig y rhaglenni a'r lleisiau gorau posib i wrandawyr Radio Cymru - a nawr mae hi'n bryd mwynhau cyfnod yr un mor hapus a gwerthfawr yng nghwmni'r teulu. "
Newidiadau
Pan gafodd ei phenodi yn 2013 dywedodd Ms Powys y byddai'n "gwrando gyda diddordeb ar 'Y Sgwrs' ac rwy'n gyffrous iawn am fy mod nawr yn cael y cyfle i arwain y gwasanaeth i ddyfodol newydd".
Cafodd 'Y Sgwrs' ei chynnal yn y cyfnod o gwmpas Eisteddfod 2013 pan oedd cyfle i wrandawyr Radio Cymru fynegi barn am gynnwys yr orsaf.
O ganlyniad i'r sgwrs, fe gafodd nifer o newidiadau eu gwneud i arlwy'r orsaf.
Ers dod yn olygydd hefyd, bu'n gyfrifol am sefydlu gorsaf ddigidol Radio Cymru 2 yn dilyn cyfnod o arbrofi gyda Radio Cymru Mwy.
Yn dilyn cyhoeddiad Betsan Powys, dywedodd Cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae cyfraniad Betsan i 大象传媒 Cymru wedi bod yn rhyfeddol.
"Un o newyddiadurwyr gorau ei chenhedlaeth, mae ei gyrfa gyda'r adran newyddion a materion cyfoes wedi ei gweld ar raglenni megis Newyddion, Panorama, Week In Week Out, nifer fawr o raglenni Etholiadol arbennig yn ogystal 芒 chwe blynedd nodedig fel Golygydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru.
"Mae Radio Cymru wedi ffynnu o dan ei harweinyddiaeth sicr a chreadigol.
"Mae'n gyfnod o ffigyrau gwrando cryf a chadarn, a'r gynulleidfa'n gwrando ar fwy o raglenni nac ers blynyddoedd ac eleni gwelwyd creu ail orsaf - Radio Cymru 2.
"Mewn gwirionedd, mae'n ddatblygiad sy'n ddyledus i ymrwymiad taer Betsan i sicrhau'r gwasanaeth gorau posib ar gyfer y cynulleidfaoedd mae hi'n eu gwasanaethu a'u caru."
Fe fydd Betsan Powys yn gadael yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2016
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013