Cymru am roi cais i gynnal Cwpan y Byd Rygbi Merched
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cadarnhau eu diddordeb mewn cynnal Cwpan Rygbi'r Byd i Ferched yn 2021.
Cyfanswm o chwe gwlad sydd wedi datgan eu diddordeb, y nifer fwyaf i ddangos diddordeb i gynnal y gystadleuaeth erioed.
Awstralia, Lloegr, Ffrainc, Seland Newydd a Phortiwgal yw'r gwledydd eraill ar y rhestr, ac mae gan y chwe undeb tan 10 Awst i gyflwyno eu ceisiadau i World Rugby.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Gyngor World Rugby mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2018.
Dywedodd Cadeirydd World Rugby, Bill Beaumont fod y diddordeb mewn cynnal y gystadleuaeth yn adlewyrchu'r "cyffro a'r momentwm" tu 么l i rygbi merched ar hyn o bryd.