Galw am gorff cenedlaethol i ddarparu addysg cerdd
- Cyhoeddwyd
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau addysg cerdd i gorff cenedlaethol hyd braich.
Yn 么l aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, mae angen "dull newydd radical i achub y sector rhag argyfwng a achosir gan doriadau parhaus i gyllid a symudiadau i guddio'r craciau".
Mae argymhelliad arall mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ym Mae Caerdydd ddydd Iau yn galw am ganolbwyntio mwy ar gerddoriaeth gyfoes a phoblogaidd gyda phlant, "er bod genres mwy traddodiadol fel cerddoriaeth glasurol a cherddorfaol yn parhau i fod yn hollbwysig".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "bwysig cydnabod camau i ganfod ffynonellau arian eraill i dalu am addysg cerdd, gan gynnwys ein buddsoddiad o 拢1m i gronfa Anthem".
'Diffyg arweinyddiaeth'
Mae adroddiad y pwyllgor, sydd ag 16 o argymhellion, yn cyfeirio at dystiolaeth bod plant yn magu hyder a sgiliau gwerthfawr y tu hwnt i'r byd cerddorol wrth ddysgu chwarae offerynnau cerdd mewn ysgol.
Mae'r sgiliau hynny'n cynnwys manteision dyfalbarhad, gwaith t卯m ac ymarfer.
Ond clywodd aelodau hefyd fod toriadau ariannol a "diffyg arweinyddiaeth strategol gan Lywodraeth Cymru" yn achosi gwahaniaethau sylweddol yn y ddarpariaeth ar draws Cymru.
Mae'r pwyllgor yn nodi datblygiadau cadarnhaol fel y rhaglen Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, Amnest Offerynnau Cerdd Llywodraeth Cymru, a chynllun sy'n rhoi 拢10,000 y flwyddyn i bob awdurdod lleol ar gyfer prynu offerynnau cerddorol.
Ond mae'n cytuno 芒 thystiolaeth gan rai cyfranwyr a ddywedodd, "cystal ag ydyw, nid yw'n agos at yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd".
Wrth awgrymu sefydlu corff cenedlaethol hyd braich i ddarparu gwasanaethau cerdd mewn addysg, mae'r pwyllgor yn argymell:
Patrwm penodol ar gyfer darpariaeth pob rhanbarth a chyllid craidd gan Lywodraeth Cymru;
Dylai'r corff sicrhau cyfleoedd cyfartal i ddisgyblion a staff y sector addysg cerddoriaeth, beth bynnag eu lleoliad a'u cefndir cymdeithasol;
Fel cam tymor byr, bod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu'n "sylweddol" ar frys y cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer prynu offerynnau cerdd a'u dosbarthu;
Cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar integreiddio a hybu'r gwaith o addysgu mathau llai traddodiadol o gerddoriaeth;
Annog sefydlu ensembles a chystadlaethau cenedlaethol yn seiliedig ar roc a phop.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed AC ei bod yn "angerddol yngl欧n 芒'r angen dybryd i gynnal a datblygu cerddoriaeth yng Nghymru... fel cerddor a ddaeth drwy'r system addysg cerddoriaeth.
"Rydym o'r farn bod angen i ni ddod o hyd i atebion radical yn wyneb toriadau parhaus i'r gwasanaethau hyn.
"Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael 芒'r diffygion a sicrhau cysondeb ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn, waeth lle maen nhw'n byw na beth yw eu cefndir ariannol, yn cael yr un cyfle i ddatblygu i ragoriaeth.
"Mae'r amser wedi dod, nid i guddio'r craciau, ond i roi digon o adnoddau a chyfeiriad clir i'r sector."
'Canfod ffynonellau eraill'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "bwysig cydnabod y camau i ganfod ffynonellau eraill o arian ar gyfer addysg cerdd yng Nghymru, gan gynnwys ein buddsoddiad o 拢1m yng nghronfa Anthem - cronfa gwaddol cerdd arloesol".
"Mae hyn ynghyd 芒'n Hamnest Offerynnau Cerdd yn gymorth i blant gael mynediad i gyfleoedd cerddorol newydd ac i ddatblygu eu sgiliau a thalentau."
Ychwanegodd gweinidogion y bydden nhw'n gweithio gyda'r pwyllgor i "benderfynu'r ffordd orau o ddefnyddio'r 拢2m sydd wedi ei glustnodi i addysg cerdd yn y gyllideb - fel y cytunwyd gyda Phlaid Cymru - ac i adeiladau ar drafodaethau yr ydym eisoes wedi eu cael gyda chadeirydd y pwyllgor".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2017