大象传媒

Jones: 'Angen i May flaenoriaethu'r DU dros ei phlaid'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai Theresa May "fod yn onest am Brexit" a rhoi diddordebau'r DU o flaen rhai ei phlaid, yn 么l Prif Weinidog Cymru.

Mewn araith yn Llundain, bydd Carwyn Jones yn galw ar y prif weinidog i drafod yn bositif gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Mr Jones yn siarad yn King's College ddydd Iau i nodi dwy flynedd ers y refferendwm.

Mae'r aelodau yn San Steffan wedi bod yn pleidleisio yn Nh欧'r Cyffredin am y deuddydd diwethaf ar Fesur Ymadael yr UE.

'Her fwyaf ers cenedlaethau'

Yn ei araith, bydd Mr Jones yn galw ar Ms May i ddefnyddio Papur Gwyn ei llywodraeth i "fod yn onest am Brexit" a "chael y wlad i safle sy'n barod amdano".

Bydd Mr Jones hefyd yn rhybuddio bod posibilrwydd gwirioneddol na fydd cytundeb rhwng y DU a'r UE, gan ddweud y byddai hynny'n "drychinebus".

Fe fydd hefyd yn dweud y dylai gweinidogion y DU anelu am "berthynas bositif a deinamig gyda'r Farchnad Sengl".

Mae Mr Jones yn dweud mai Brexit yw'r "her fwyaf mewn cyfnod o heddwch i'r wlad ers cenedlaethau", gan alw ar Ms May i wneud anghenion y DU yn flaenoriaeth.

Bydd yn dweud bod angen iddi "gael ei harwain gan ddiddordebau'r wlad, yn hytrach nag ofni ychydig ddwsinau o aelodau mainc cefn ei phlaid".