大象传媒

Pryderon rhieni wedi damwain dr么n

  • Cyhoeddwyd
Keyframe #4

Mae pryderon difrifol wedi cael eu codi yngl欧n 芒 diogelwch awyrennau di-beilot ar 么l i un syrthio i'r ddaear ar dir amaethyddol, llai na milltir o ysgol leol.

Fe ddaeth y ddamwain oriau yn unig ar 么l i ddr么n gael ei ffilmio yn hedfan uwchben Diwrnod Mabolgampau yn Ysgol Penparc gerllaw.

Doedd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim yn medru cadarnhau ai'r un dr么n wnaeth syrthio i'r ddaear yn ddiweddarach. Mae fideo o'r dr么n uwchben Ysgol Penparc wedi dod i ddwylo Newyddion 9. Deallir mai dr么n Watchkeeper sydd wedi cael ei ffilmio gan un o rieni'r ysgol.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod nhw'n "ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud ag awyren Watchkeeper. Doedd yna ddim anafiadau. Does yna ddim perygl i'r cyhoedd. Mae ymchwiliad ar y gweill".

Dywedodd yr un llefarydd nad oedd gwaharddiad ar hedfan awyrennau di-beilot uwchben ysgolion.

Disgrifiad,

Fideo o dr么n uwchben Ysgol Penparc

'Dychrynllyd'

Un rhiant oedd yn gwylio ei phlant yn cystadlu yn y Diwrnod Mabolgampau oedd Melanie Davies o Benparc :

"Fe aeth fy ngwaed yn oer, fe wnes i gael sioc achos llai na dwy awr cyn hynny ro'n i'n eistedd fan'na gyda fy mhlant i, teuluoedd cyfan yna a galle bywydau ni gyd fod wedi cael eu dinistrio. Mae'n ddychrynllyd i feddwl bod nhw mor agos i'r ysgol. Mae'r achlysur yma wedi gwneud i bobl ofni lot yn fwy."

Mae pryderon wedi cael eu codi am y digwyddiad gan Mererid Hopwood, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru, sydd wedi ymgyrchu yn erbyn dr么ns:

"Mae'n drawiadol iawn. Mae'r awyren yn amlwg yn agos tu hwnt at y plant bach.

"Ond y peth pwysig nawr i'w bod ni ddim yn gadael i hwn godi ofn arnom ni a'n parlysu ni, ond yn hytrach yn codi hyder ni y gallwn ni gael gwared ar y math yma o swyddi honedig a'r math yma o ymwneud 芒 busnes rhyfel."

"Dyw hi ddim wedi cael tystysgrif diogelwch.. mae rhywun yn ddrwgdybus bod hi'n iawn i hedfan uwchben Gorllewin Cymru.. rhyw countryside dibwys i benaethiaid y Weinyddiaeth Amddiffyn.. mae pobl Gorllewin Cymru, fel pobl Afghanistan yn werthfawr."

Caniat芒d i gynllun

Cafodd 大象传媒 Cymru ei hatal rhag siarad gyda phennaeth Ysgol Penparc am y digwyddiad gan Gyngor Ceredigion. Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Ceredigion :

"Nid yw'n briodol i'r Cyngor i gynnig sylw ar y mater heb fod yn ymwybodol o'r ffeithiau. Pan ddaw'r wybodaeth allan yn swyddogol mae'n bosib fydd gan y Cyngor sylw i wneud ar y pryd hynny."

Ddydd Mercher, fe roddwyd estyniad i ganiat芒d cynllunio ar gyfer cynllun gwerth 拢40m i wella cyfleusterau ym Maes Awyr Gorllewin Cymru.

Cafodd caniat芒d llawn ei roi yn 2008 i adeiladu seilwaith newydd ar safle Maes Awyr Gorllewin Cymru ym Mlaenannerch ger Aberporth, ond does yna ddim datblygiad sylweddol wedi bod yna.

Deallir fod yna o leia' 5 o ddamweiniau wedi bod yn ymwneud ag awyrennau di-beilot yn ardal Aberporth.