大象传媒

Staff ambiwlans i wisgo camer芒u corff?

  • Cyhoeddwyd
YmosodiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna gynnydd wedi bod yn nifer ymosodiadau ar staff ambiwlans

Fe allai parafeddygon fod yn gwisgo camer芒u corff cyn hir ar 么l cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar staff ambiwlans.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae dros 500 o ymosodiadau o'r fath wedi eu cofnodi.

Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod yna gynnydd wedi bod yng nghyfnod y gaeaf wrth i nifer y galwadau 999 gynyddu.

Dywedodd Richrd Lee, cyfarwydd gweithrediadau, gyda'r Gwasanaeth fod staff wedi gorfod ymdopi a sefyllfaoedd anodd wrth i amseroedd ymateb waethygu.

Ychwanegodd fod aelodau staff eisoes yn derbyn cyngor wrth ymdopi a'r pwysau.

"Mae yna fwy o ymosodiadau wedi bod," meddai.

Mae staff pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru eisoes yn defnyddio camer芒u er mwyn cofnodi ymosodiadau ac ymddygiad heriol er mwyn ceisio lleihau nifer digwyddiadau o'r fath.

Dywedodd Mr Lee fod y Gwasanaeth Ambiwlans nawr yn ystyried rhoi camera i'w staff.

Dywedodd Nathan Holman, ysgrifennydd undeb y GMB cangen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, y byddai cam o'r fath yn gwella diogelwch.

"Byddai'n ychwanegu at ein diogelwch, neu fel arall pan rydych yng nghefn ambiwlans ar ben eich hun ac mae yna rywun yn eich bygwth mae'n bosib nad yw'r gyrrwr o reidrwydd wedi sylwi.

"Hefyd o ran y broses disgyblu, pe bai rhywun yn cael ei gyhuddo o ddweud neu wneud rhywbeth yna mae o'n fodd i roi taw ar honiadau os ydy nhw'n rhai ffug."