大象传媒

Ymosodiadau ar ddiffoddwyr t芒n yn 'warthus'

  • Cyhoeddwyd
Fire engine

Mae ymosodiad a welodd boteli'n cael eu taflu at ddiffoddwyr wrth iddyn nhw geisio taclo t芒n wedi cael ei ddisgrifio fel "cwbl warthus".

Cafodd criw o Abercynon eu targedu mewn parc yn Ynysboeth, Rhondda Cynon Taf nos Sadwrn.

Dywedodd Jennie Griffiths, o Wasanaeth T芒n ac Achub De Cymru ei bod yn teimlo'n "ddig, siomedig ac wedi synnu".

Ychwanegodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, ei fod wedi ffieiddio, ac fe gefnogodd y defnydd o gamer芒u corff i'r criwiau.

Daw'r alwad wrth i Heddlu Gwent ddatgelu bod 11 o'u swyddogion wedi diodde' ymosodiadau dros gyfnod o 24 awr dros y penwythnos.

Mewn trydar dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Marc Budden: "Ymosodiadau ar 11 swyddog yng Ngwent yn y 24 awr ddiwethaf. Maen nhw'n cynnwys cael eu brathu, poeri atyn nhw...arhosodd pob un ar ddyletswydd. Ymddygiad cwbl annerbyniol. Byddwn yn delio gyda'r troseddwyr yn gadarn."

'Problem gyffredinol'

Yn Ynysboeth, daeth yr ymosodiad ar ddiffoddwyr wrth iddyn nhw geisio diffodd t芒n oedd wedi'i gynnau'n fwriadol yn y parc oddeutu 23:00.

Roedd Mr Morgan, sy'n cynrychioli ward Gorllewin Aberpennar gerllaw, wedi ymweld 芒 safle'r t芒n a'r ymosodiad ddydd Sadwrn.

Cefnogodd alwadau i gael camer芒u corff i weithwyr y gwasanaethau argyfwng.

"Mae yna broblem gyffredinol mewn ardaloedd fel parciau a mannau cyhoeddus lle mae'n ymddangos yn ok i gynnau tanau a difrodi eiddo cyhoeddus," meddai.

"Ond nid difrodi eiddo yn unig yw hyn, mae'n peryglu bywydau pobl. Er enghraifft, dim ond un injan d芒n sydd yng ngorsaf Abercynon. Os ydyn nhw'n delio gyda th芒n yn y parc ac yna'n cael galwad arall, mae'n bosib y gallen nhw gael eu hatal rhag achub bywydau mewn t芒n arall.

"Mae'n sefyllfa anffodus i ni ddweud fy mod i'n croesawu camer芒u corff, ond dyna'r unig ffordd. I unrhyw un sy'n dweud fod hyn yn sefyllfa 'Big Brother', fyddwn i'n dweud os nad ydych chi'n gwneud unrhyw beth o'i le, yna does dim drwg i weithwyr argyfwng eu gwisgo.

"Ond wrth gwrs fydd camer芒u ddim yn atal hyn rhag digwydd, ac mae angen rhaglen o addysg ddiwylliannol hefyd. Mae'r math yma o ymddygiad yn gwbl warthus."

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eisoes wedi dweud y gallai parafeddygon wisgo camer芒u corff cyn bo hir yn dilyn cyfres o ymosodiadau ar eu staff.

Eisoes mae pump o fyrddau iechyd Cymru yn defnyddio camer芒u o'r fath i gofnodi ymosodiadau a cham-drin staff ysbytai, gyda staff diogelwch yn eu gwisgo nhw.