大象传媒

Gething: Dim manylion am 拢1.2bn ychwanegol i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Theresa May
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Prif Weinidog Theresa May yn annog Cymru i wario'r arian ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd

Dyw manylion 拢1.2bn o arian ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru ddim wedi eu cadarnhau gan Lywodraeth y DU meddai ysgrifennydd iechyd Cymru.

Fe ddaeth yr addewid gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ar 么l i'r Prif Weinidog Theresa May gyhoeddi 拢20bn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr erbyn 2023.

Ond mae Vaughan Gething yn dweud mai'r unig beth y mae wedi ei weld yw datganiad Mr Cairns.

Yn 么l Mrs May bydd mwy o fanylion am y nawdd ymhen amser.

Ddydd Sul dywedodd y prif weinidog y byddai'n rhaid cynyddu trethi er mwyn talu am yr arian ychwanegol.

Dywedodd Mr Gething y byddai Llywodraeth Cymru'n "croesawu unrhyw adnoddau ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus ar 么l wyth mlynedd o lymder heb ei debyg o'r blaen".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim modd cynllunio ar sail datganiad i'r wasg medd Vaughan Gething

Ychwanegodd y byddai gweinidogion yn ystyried sut a lle y byddai'r arian yn cael ei wario pan fydd yn derbyn y manylion.

"Er y datganiad i'r wasg sydd wedi ei gyhoeddi dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw fanylion sydd wedi eu cadarnhau am yr hyn fyddwn ni'n derbyn eleni, flwyddyn nesaf na'r flwyddyn wedyn.

"Felly allwn ni ddim cynllunio ar sail datganiad i'r wasg Alun Cairns.

"Ond dwi wedi ymrwymo i wneud y gorau o'r arian yna ac i wneud hynny gyda fy nghyfoedion yn Llywodraeth Cymru."

Annog gwario ar iechyd

Mae'r arian ychwanegol yn dod i Gymru o dan reolau fformiwla Barnett, a phenderfyniad gweinidogion Cymru fydd sut i wario'r arian.

Er hynny mae Llywodraeth y DU wedi galw am i'r 拢1.2bn ychwanegol yn flynyddol - a fydd yn ei le erbyn 2023 - i gael ei wario ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Wrth siarad ddydd Llun dywedodd y prif weinidog: "Dwi'n annog y llywodraethau datganoledig yn Yr Alban a Chymru i ddefnyddio'r arian i wella'r GIG, ac i ddatblygu eu cynlluniau hir dymor eu hunain ar gyfer GIG Yr Alban a GIG Cymru."

Bydd manylion y pecyn cyllideb yn cael eu hamlinellu gan y Canghellor Phillip Hammond.