Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Marwolaeth babi: 'Cyfres o fethiannau' medd ombwdsmon
Roedd cyfres o fethiannau yn achos marwolaeth babi newydd-anedig yn Ysbyty Glangwili, yn 么l Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett.
Fe wnaeth Ellie James o Hwlffordd y gwyn i swyddfa'r ombwdsmon am y gofal a'r driniaeth gafodd hi a'i bachgen bach, Callum, gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddwy flynedd yn 么l.
Mae'r ombwdsmon wedi cefnogi cwynion y fam, gan gynnwys bod staff wedi diystyru ei phryderon am boenau yn ystod ei beichiogrwydd a bod y bwrdd iechyd wedi cofrestru, yn anghywir, bod Callum yn farw-anedig.
Yn 么l Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, maen nhw wedi ymddiheuro i Mrs James ac wedi cyflwyno gwellianau i wella'r gofal y maen nhw'n ei gynnig.
Bu farw Callum 35 munud ar 么l cael eni ym mis Mai 2016, wedi cyfres o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd Ms James a'i enedigaeth yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ms James wrth 大象传媒 Cymru: "Dydw i ddim yn meddwl bod modd symud ymlaen gyda rhywbeth fel hyn, chi'n dysgu i fyw gyda'r poen. Dydi pethau ddim yn mynd yn haws, mewn rhai ffyrdd mae'n mynd yn anoddach.
"Gewn ni byth lun o dri o'n plant ni gyda'u gilydd. Mae'n anodd iawn edrych ar luniau o'r teulu a gwybod bod un plentyn ar goll."
Mewn adroddiad, mae swyddfa'r ombwdsmon yn dweud bod staff meddygol wedi methu 芒 chadw golwg ar ddatblygiad Callum yn ystod beichiogrwydd Mrs James a'r enedigaeth.
Fe wnaethon nhw hefyd fethu 芒 darparu cynllun geni i'r fam.
Oedi cyn gweld meddyg
Er iddi gwyno ddwywaith am boenau anghyffredin yn ystod yr enedigaeth, fe wnaeth meddygon a bydwragedd fethu ag ymateb i'w phryderon.
Mae'r ombwdsmon hefyd wedi cadanrhau bod oedi cyn i bediatregydd ymgynghorol weld Callum, ag yntau newydd ei eni yn ddifrifol wael, oherwydd bod y meddyg wedi derbyn manylion y lleoliad anghywir.
Yn 么l yr adroddiad, fe gafodd Mrs James a'i g诺r Chris sawl rheswm gwahanol am farwolaeth Callum, oherwydd methiant ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gynnal ymchwiliad llawn i'r hyn achosodd i'r bachgen bach farw.
Y casgliad terfynol oedd bod Callum wedi marw oherwydd bod y brych wedi ymddatod.
Cwyn arall gan Mrs James oedd bod y bwrdd iechyd wedi cofrestru, yn anghywir, bod Callum yn farw-anedig.
Mae Nick Bennett wedi cefnogi'r gwyn yma hefyd, gan nodi bod Callum wedi dangos arwyddion ei fod yn fyw am gyfnod wedi ei enedigaeth a chyn i feddygon ddatgan ei fod yn farw, ac felly y dylid nodi ei fod wedi marw ar 么l ei enedigaeth.
Dywedodd Ms James: "Ni'n teimlo fel bod ein munudau olaf ni efo fo wedi cael eu dwyn oherwydd ni ddywedwyd wrthyn ni ei fod o'n fyw ar y pwynt yna - mae'n dorcalonnus meddwl ein bod ni wedi methu hynny."
Dywedodd yr ombdsmon, Nick Bennett: "Sa neb eisiau mynd trwy'r profiad mae'r rhieni yma wedi bod trwyddo.
"Mae'r ffaith bod ei farwolaeth wedi cael ei gofrestru'n anghywir yn ychwanegu at boen y teulu'n sylweddol.
"Mae'n un o'r achosion mwyaf difrifiol 'da ni wedi'i gael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."
'Cyflwyno gwelliannau'
Yn ei adroddiad, mae Mr Bennett yn argymell bod y bwrdd iechyd yn ymddiheuro i Mr a Mrs James am y methiannau, ac yn talu swm o 拢4,500 i gydnabod y poen a achoswyd iddyn nhw.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cytuno i weithredu'r argymhellion hynny ac wedi cytuno i newid statws marwolaeth Callum.
Ymddiheurodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore, am y methiannau mewn gofal, gan ddweud ei fod wedi ymddiheuro wrth deulu Mrs James hefyd.
Ychwanegodd: "Mae ein staff wedi cyflwyno gwelliannau i'r gwasanaeth wrth i ni barhau i geisio gwella'r gofal sy'n cael ei gynnig."
"Rydyn ni hefyd wedi gwahodd Mrs James i gwrdd 芒 ni i drafod y newidiadau yma."