Iechyd: 拢30m arall i leihau rhestrau aros y GIG
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi 拢30m o gyllid ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros ymhellach ledled Cymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 拢100m o gyllid ychwanegol wedi'i roi i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i leihau'r amseroedd aros ar gyfer cyfeirio cleifion at driniaeth, i gael diagnosis ac i gael therapi.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae hyn wedi arwain at y nifer isaf o bobl yn aros dros 36 wythnos i gael eu cyfeirio at driniaeth ers dros pedair blynedd.
Ddiwedd mis Mai, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) bod GIG Cymru yn gwario miliynau ar geisio lleihau rhestrau aros yn hytrach na mynd i'r afael 芒 diffyg meddygon arbenigol.
Rhaid cyrraedd y nod
Bellach, mae byrddau iechyd wedi cyflwyno cynlluniau i gael mynediad at gyllid o'r gronfa perfformiad sy'n werth 拢30m i leihau rhestrau aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2019.
Bydd rhaid i'r byrddau iechyd gyrraedd y targedau cyflawni y cytunwyd arnynt i leihau'r rhestrau aros er mwyn cael y cyllid yn llawn.
Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd fod mwy na 拢13m wedi'i gadw'n 么l rhag tri o fyrddau iechyd Cymru ar 么l iddyn nhw fethu 芒 chwtogi amseroedd aros cleifion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r cyllid ychwanegol hwn ar gael i fyrddau iechyd er mwyn eu helpu i leihau amseroedd aros mewn meysydd sydd o dan bwysau.
"Yn ddiweddar, cyhoeddais ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach, gyda 拢100m o gymorth i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn y dyfodol.
"Ond, yn y tymor byr i'r tymor canolig, mae angen i ni ganfod ffyrdd newydd o leihau amseroedd aros i gleifion sydd eisoes wedi aros yn hirach na'n targedau.
"Bydd angen i fyrddau iechyd gyrraedd y targedau maen nhw'n eu gosod er mwyn cael y cyllid yn llawn. Rwy'n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol i'r amseroedd aros fel y gwelwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf y gronfa hon."
Daw'r 拢30m o gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru ac nid yw'n gysylltiedig 芒 chyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU i roi arian ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai 拢23bn yn ychwanegol yn cael ei wario ar iechyd yn Lloegr.
Fe ddylai hynny olygu arian ychwanegol i Gymru, ond dyw manylion yr 拢1.2bn ddylai ddod i wasanaethau cyhoeddus Cymru ddim wedi eu cadarnhau gan Lywodraeth y DU meddai Mr Gething.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018