Ateb y Galw: Alun Saunders

Y perfformiwr a'r ysgrifennwr, Alun Saunders, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Esyllt Sears yr wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Wy'n itha si诺r mai cwrdd 芒 Darth Vader yn Debenhams Abertawe yw hi... Ma' gen i frith gof ohono fe'n bod yn hollol anferth, ac oedd gen i ei lofnod ar fwrdd corc yn y'n ystafell wely am flynyddoedd wedyn. Sgwn i lle ma' hwnna nawr?

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Oedd gen i o leia' wyth poster o Madonna dros y wal pan yn iau, ac efallai 'mod i'n meddwl 'mod i 'fod' i'w ffans茂o hi, ond wy'n gwbod am ffaith mai Jack ar Home and Away (Daniel Amalm) oedd y crysh go iawn gynta' dwi'n cofio. Yr unig reswm i wylio Home and Away.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

51.9% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Neithwr wrth wylio Queer Eye ar Netflix. Mae'r ffordd mae'r Fab 5 yn trawnewid bywydau pobl gyda llawer mwy na makeover dillad, ond hefyd gyda'r ffordd maen nhw'n byw eu bywyd a'r ffordd bositif mae angen i ni weld ein hunain, yn emosiynol ac arbennig. Gwyliwch - mae'n amazing!

Ffynhonnell y llun, Netflix

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Fab 5 yn trawsnewid bywydau pobl mewn cyfres ar Netflix

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wy'n absoliwtli caru pigo trwyn a dwi ddim yn meddwl neith hynna fyth newid. Cofio bod yn y car wrth olau coch - wrthi - a gweld gr诺p o ferched mewn tacsi yn chwerthin. Nes i rolio fy llygaid cyn sylweddoli 'mod i'n nabod nhw gyd. Ah, wel...!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Wy'n caru Caerdydd lot, lot fawr OND mae 'na rywbeth hollol arbennig am ishte ar y ffrynt yn Aberystwyth yn edrych dros y m么r. Ma' Aber yn agos iawn at 'y nghalon i.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn ddiweddar nes i berfformio'n sioe un dyn/es gyntaf un ar ben fy hun fel Connie Orff, a chael y wefr mwya' amazing a gwefreiddiol a ffantastig o fod wedi diddanu cynulleidfa (ffrindiau, teulu a dieithriaid llwyr) gyda rhywbeth oeddwn i wedi'i chreu fy hun. Oedd hynna'n eitha sbeshal!

Disgrifiad o'r llun, Mae Alun wedi bod yn hyfforddi sut i fod yn Frenhines Ddrag, ac yn perfformio sioeau dwyieithog fel Connie Orff

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Dwyieithog, surprising, sili.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fight Club. Wy'n rili joio ffilmie sy'n datgelu mwy a mwy wrth wylio'r eildro... neu'r trydydd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mae 'na stori enwog am Cleo Rocos, Freddie Mercury a Kenny Everett tua diwedd yr 80au yn gwisgo'r Dywysoges Diana i fyny fel dyn, ac yn mynd 芒 hi allan incognito i joio yn y Royal Vauxhall Tavern... Se'n i wedi DWLU bod yn eu gang nhw'r noson yna...

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Un o'r pethe dwi yn absoliwtli casau mwy nag unrhywbeth yn y byd yw s诺n pobl eraill yn bwyta. Mae'n neud i fi ishe ffrwydro. Mae 'na hyd yn oed enw ar y peth - misophonia. G诺glwch!

O Archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Casglu'n holl deulu a ffrindie i gyd at 'i gilydd am barti hollol amazing gyda lot o ddawnsio a joio. Priodas fi a'r g诺r take 2!

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

*checio'r g芒n sydd wedi'i chware fwya' ar y laptop*

Sissy That Walk - RuPaul... Os ti ar y ffordd i'r gwaith, does 'na ddim un c芒n gwell i dy ysgogi di a 'neud i ti deimlo'n fabulous.

Ffynhonnell y llun, Netflix

Disgrifiad o'r llun, Mae RuPaul yn cyflwyno cyfres RuPaul's Drag Race - cystadleuaeth i geisio dod o hyd i'r seren ddrag nesa'

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Mezze platter i'w rannu; stecen ffiled gyda saws pupur a triple-cooked chips; cacen caws (neu tsh卯sc锚c) mafon!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Am UN diwrnod? RuPaul, Brenhines y bydysawd. Se'n i'n trio 'mlaen bob un o'n ffrogie i ac yn cerdded y catwalk i 'nghaneuon fy hun. Diwrnod i'r Frenhines.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Saran Morgan