Rhybuddio pobl rhag nofio 芒 dolffiniaid yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i bobl gadw eu pellter oddi wrth ddolffiniaid gwyllt oddi ar arfordir Ceredigion.
Daw'r rhybudd ar 么l i Jonathan Evans o Dolphin Spotting Boat Trips weld dynes yn nofio gyda dau ddolffin ger Ynys Lochtyn ym Mae Ceredigion ddiwedd mis Mai.
Cafodd ymddygiad y ddynes ei ddisgrifio fel "hunanol" a "didrugaredd" gan Mr Edwards.
Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud y dylai pobl fwynhau gweithgareddau arfordirol, ond gwneud ymdrech i beidio ag aflonyddu bywyd gwyllt.
100 metr i ffwrdd
Mae cod ymddygiad morol Ceredigion yn gofyn i bobl aros hyd at 100 metr i ffwrdd o ddolffiniaid.
Yn 么l Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 mae hi'n drosedd i darfu ar greaduriaid o'r fath yn bwrpasol.
Roedd Mr Evans wedi tynnu lluniau o'r digwyddiad, cyn cysylltu gyda'r Swyddog Ardaloedd Morol Gwarchodedig lleol.
"Teulu gyda dau kayak oedd yno - mam, tad, bachgen a merch fach - roedden nhw droedfeddi i ffwrdd o'r dolffiniaid," meddai.
Yn 么l Mr Evans roedd y fam yn dilyn y dolffiniaid, ac roedd rhaid iddo ymyrryd cyn bod y ferch yn ymuno 芒 hi yn y d诺r.
"Roedd rhaid i ni egluro eu bod nhw mewn man gwarchodedig a'i bod hi'n anghyfreithlon i nofio gyda'r dolffiniaid."
Mwynhau o bellter
Mae llefarydd ar ran y Sea Watch Foundation yn annog pobl i beidio a dynesu at ddolffiniaid.
Meddai: "Tra bod dolffiniaid yn anifeiliaid carismatig, maen nhw hefyd yn ysglyfaethwyr mawr, pwerus sydd 芒'r gallu i anafu rhywun yn ddifrifol.
"Gall ymyrryd cyson gyda'r dolffiniaid arwain at newidiadau ymddygiad yn y tymor hir, a fyddai'n gallu effeithio ar y boblogaeth yn ei chyfanrwydd."
Dywedodd Rhodri Evans, aelod o gabinet Cyngor Ceredigion eu bod nhw hefyd yn gofyn i bobl fwynhau'r dolffiniaid, a chreaduriaid eraill, o bellter diogel.