大象传媒

Cytundeb uno cwmni dur Tata 芒 Thyssenkrupp yn agos

  • Cyhoeddwyd
Tata
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arbenigwyr yn y diwydiant dur wedi dweud fod amheuaeth yn parhau yngl欧n 芒 dyfodol y safle.

Mae cytundeb rhwng cwmni dur Tata a chwmni o'r Almaen, Thyssenkrupp i uno yn agos at greu'r ail wneuthurwr dur mwyaf yn Ewrop, ar 么l Arcelor Mittal.

Mae ffynonellau'n dweud gallai cytundeb - sydd wedi bod yn cael ei drafod ers dros flwyddyn - gael ei gwblhau yn y dyddiau nesaf.

Byddai'n gweld safleoedd Tata yn y DU yn uno gyda Thyssenkrupp sydd 芒 gwerthiant blynyddol o 拢13bn.

Bydd y safleoedd yn cynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot.

Ymrwymo i Bort Talbot

Mae trafodaethau wedi eu harafu gan gynllun pensiwn gweithwyr Tata.

Dri mis yn 么l, fe wnaeth y rheoleiddiwr pensiynau roi s锚l bendith ar greu cronfa bensiwn newydd wedi i Tata gytuno i dalu 拢550m a rhoi cyfran ecwiti o 33% yn Tata Steel UK i'r gronfa.

Yn ddiweddar mae Thyssenkrupp wedi wynebu pwysau gan gyfranddalwyr er mwyn sicrhau telerau gwell gan Tata.

Mae Tata a Thyssenkrupp eisoes wedi ymrwymo i'r safle ym Mhort Talbot, sef y safle dur mwyaf yn y DU.

Ond mae arbenigwyr yn y diwydiant dur wedi dweud fod amheuaeth yn parhau yngl欧n 芒 dyfodol y safle.