Llythyr 'gwrth-Gymraeg' Trago Mills yn 'sarhaus'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd cwmni Trago Mills wedi ei feirniadu am wneud sylwadau sydd wedi eu galw'n "wrth-Gymraeg" gan Gymdeithas yr Iaith.
Daw'r sylwadau ar 么l i Bruce Robertson ddweud bod ganddo "amheuon" am addysg cyfrwng Cymraeg mewn llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae'r llythyr, sy'n trafod darpariaeth yr iaith yn siop newydd Trago Mills ym Merthyr Tudful, hefyd yn dweud mai "Saesneg yw dewis iaith pobl leol", ac yn cwestiynu'r defnydd o arwyddion dwyieithog.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod sylwadau Mr Robertson yn "sarhaus iawn" ac yn dangos "amarch".
Dywedodd Mr Robertson wrth 大象传媒 Cymru fod angen "gadael i'r bobl ddewis pa iaith i'w defnyddio o ddydd i ddydd", a'i fod yn "annhebygol o blygu i fodloni lleiafrifoedd tra'i fod yn ceisio gwneud y gorau i'r mwyafrif".
'Trysori' Saesneg
Mae gan y cwmni bedwar safle ar hyd y DU, a'r diweddaraf yw'r safle ym Merthyr Tudful.
Ar hyn o bryd arwyddion uniaith Saesneg sydd yn y siop, ond yn y llythyr mae Mr Robertson yn ymrwymo i osod arwyddion dwyieithog.
Ond mae Mr Robertson hefyd yn cwestiynu gwerth arwyddion o'r fath, gan ddweud ei fod wedi treulio cryn dipyn o amser ym Merthyr ar 么l i'r cwmni brynu eu safle cyntaf ym Mhentrebach ar ddiwedd yr 80au.
Dywedodd fod ganddo "amheuon ynghylch yr her i'r gyfundrefn addysg a geir drwy addysgu iaith arall, yn enwedig o ystyried safonau llythrennedd presennol".
"Yr wythnos diwethaf cafodd 'furniture' ei sillafu gan weithiwr fel 'fernicher': maddeuwch fy anwybodaeth ond o hyn y deallaf dyna yw'r sillafiad cywir... yn Gymraeg!"
Ychwanegodd: "Ni wnaf eich trafferthu wrth ddadlau ynghylch buddion economaidd o fanteisio ar ein rhodd, bron 芒 bod oddi wrth Dduw, o siarad iaith fwyaf dominyddol y byd.
"Digon yw dweud, fel cenedl ar drothwy Brexit ei bod [y Saesneg] yn ased na ddylid ei thanbrisio na thanamcangyfrif ei gwerth, ond ei thrysori a manteisio arni lle bynnag sy'n bosibl."
Mewn sylwadau pellach i 大象传媒 Cymru dywedodd: "Dwi erioed wedi clywed [y Gymraeg] yn cael ei siarad, a dwi'n mynd i siopau, bwytai, tafarndai.
"Mae gen i nifer o ffrindiau yn y cwm dros y ffordd ble dwi wedi treulio llawer o amser, nid 22 ond 30 mlynedd mewn gwirionedd, ac i fod yn onest, dwi erioed wedi ei chlywed yn cael ei siarad."
'Sarhaus iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg eu bod nhw wedi derbyn "sawl cwyn" gan gwsmeriaid am ddiffyg arwyddion Cymraeg yn Trago Mills Merthyr Tudful.
"Mae ein T卯m Hybu yn gweithio gyda busnesau i'w hannog i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg ar sail wirfoddol, ac mae gennym brofiad helaeth o weithio'n llwyddiannus gyda rhai o f芒n-werthwyr mwyaf y DU ar ddatblygu eu defnydd o'r iaith.
Ychwanegodd: "Rydym wedi cynnig helpu Trago Mills i ddatblygu defnydd o'r iaith, ac mae'r cynnig hwn yn dal i sefyll."
Yn 么l Wyn Williams, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith mae "sylwadau gwrth-Gymraeg y cwmni'n rhai sarhaus iawn".
"Maen nhw'n dangos amarch tuag at y wlad y maen nhw'n masnachu ynddi 芒 thuag at ein hiaith genedlaethol unigryw," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae 86% o bobl yng Nghymru yn teimlo bod yr iaith yn rhywbeth i fod yn falch ohoni. Rydyn ni'n cytuno 芒 nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018