Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Os chi'n meddwl bod hi'n boeth ar hyn o bryd...
Gyda'r tymheredd ym Mhorthmadog yn cyrraedd record o 32.6潞C dydd Iau, mae llawer wedi bod yn ymfalch茂o a diawlio'r cyfnod poeth ni wrthi'n mwynhau ar hyn o bryd.
Ond os chi'n meddwl fod hi'n boeth nawr, dyw hyn yn ddim i'w gymharu gyda haf 1976.
Roedd gwaharddiad ar ddefnyddio pibau d诺r (dim llawer yn anarferol fan'na!) ond dros yr haf yn 1976 wnaeth lefelau nifer o argaeau ostwng yn ddifrifol wedi'r cyfnod hiraf o sychder ers 250 mlynedd, gyda rhai ardaloedd ddim yn gweld glaw am 45 diwrnod.
Dogni d诺r
Un o'r ardaloedd gafodd ei effeithio fwyaf oedd hen sir Gwent yn ne ddwyrain Cymru, lle gafodd dros 70 o gwmn茂oedd eu gorchymyn i haneru eu defnydd o dd诺r... gan gynnwys pyllau glo a gweithfeydd dur - cofio'r rheiny?
Roedd hi mor ddifrifol fel bod rhaid i sefydliadau fel y gwasanaeth t芒n a'r gwasanaeth iechyd hefyd ddechrau cynllunio am y diffyg d诺r difrifol.
Pwerau arbennig
Cafodd deddf ei basio oedd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol leihau defnydd d诺r drwy ddiffodd y cyflenwad ar brydiau o'r dydd i'r cyhoedd.
Cafodd tanceri d诺r eu dosbarthu i rai ardaloedd er mwyn darparu d诺r ac mewn nifer o ardaloedd, yr unig ffordd i gael d诺r oedd drwy ddefnyddio tapiau cyhoeddus, standpipes.
Y nod oedd arbed digon o dd诺r i alluogi diwydiant a gwasanaethau allweddol i barhau i weithredu.
Yng Nghymru, roedd y gostyngiad yn lefelau argaeau yn golygu bod adfeilion hen adeiladau yn cael eu gweld eto fel hen bont yn argae Llwyn-Onn ac yn fwy dadleuol efallai, gwelwyd adfeilion rhannau o Gapel Celyn yn codi fel atgof o'r hyn ddigwyddodd.
Dim ha' bach Mihangel
Er mor ddifrifol oedd y sychder mawr yn ystod Mehefin, Gorffennaf ag Awst 1976, erbyn mis Medi ddaeth y glaw. Lot o law.
Cyn hir, roedd y sychder mawr yn atgof pell gyda phobl yn cwyno am y glaw eto!