Lle oeddwn i: Eleri Llwyd a C芒n i Gymru 1971
- Cyhoeddwyd
Dros 40 mlynedd yn 么l enillodd y gantores ifanc Eleri Llwyd gystadleuaeth y g芒n orau ar raglen Disc a Dawn gyda'r g芒n Nwy yn y Nen, wedi ei hysgrifennu gan Dewi Pws.
Y gystadleuaeth hon a ddatblygodd yn nes ymlaen yn gystadleuaeth C芒n i Gymru. Mae'r g芒n yn ymddangos ar ail-gyhoeddiad label Sain o record hir unigol Eleri Llwyd o 1977, Am Heddiw Mae Ngh芒n, sy'n cael ei rhyddhau fis Awst 2018 - y gyntaf yng nghyfres newydd y label o recordiau feinyl eiconig.
Mae hi bellach wedi ymddeol fel athrawes Saesneg ac yn byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala lle bydd noson i ddathlu ail-gyhoeddi'r albym ar y cyd 芒 Glain Rhys ar nos Iau 5 Gorffennaf.
Beth mae hi'n ei gofio am y cyfnod?
Yn 1971 ro'n i yn y drydedd flwyddyn yn y coleg yn Aberystwyth yn astudio Saesneg.
Roedd yn gyfnod gwleidyddol. Y Nhw oedd y band cyntaf roeddwn i ynddo ac wedyn Y Chwyldro wrth i bethau ddatblygu'n wleidyddol a chanu protest fynd yn fwy poblogaidd ymysg cynulleidfaoedd ifanc, yn enwedig yn y colegau.
Roedden ni'n chwarae mwy o ganeuon Hefin Elis a'r caneuon yn tueddu i fod yn fwy gwleidyddol a s么n am baentio arwyddion a phethau felly.
Roedd gan Y Chwyldro ganeuon fel Rhaid Yw Eu Tynnu i Lawr [am yr ymgyrch dros arwyddion Cymraeg] a chaneuon am dai haf.
Y 大象传媒 oedd yn darlledu'r gystadleuaeth ar y pryd ac yn dewis y caneuon a phenderfynu pwy fyddai'n addas i'w canu nhw, ac mi ofynnwyd imi ganu Nwy yn y Nen [oedd yn cael ei galw'n Breuddwyd ar y pryd].
Roedd hi'n g芒n bobogaidd iawn ac aethon ni draw i Iwerddon efo hi i gystadlu yng Nghilarni a chriw ffilmio yn ein dilyn ni i bob man - ac fe gafon ni ail!
Roeddwn i ffwrdd yn canu yn rhywle o hyd yn ystod fy nghyfnod yn y coleg.
Dim ots lle roeddach chi'n mynd yn y Gymru Gymraeg roedd llefydd yn llawn - roeddan ni'n mynd lot i Wrecsam, oherwydd roedd 'na lot o bobl yn trefnu nosweithiau Cymraeg yno, a lot i'r de orllewin a Sir Benfro hefyd.
Roedd yna lot o waith ar gael ar y pryd mewn cyngherddau ac ar raglenni teledu.
Wrth edrych n么l ar y cyfnod mi faswn i'n licio petawn i wedi cymryd y peth ychydig bach mwy o ddifri ond roedden ni'n meddwl nad oedd yna ddyfodol i hyn - seize the day a mwynhau oedden ni.
Fe wnaeth Pete Griffiths, oedd yn cyfansoddi ar gyfer Y Nhw, barhau imi fel cyfeilydd wedyn pan wnes i barhau fel unawdydd.
Hyd yn oed ar 么l imi ddechrau dysgu, roedd 'na gyngherddau yn ystod yr wythnos a bron bob penwythnos - dwn im sut roeddan ni'n ei wneud o achos roeddan ni'n teithio tan yr oriau m芒n ac wedyn yn codi i fynd i'n gwaith!
Ond doedd gen i ddim digon o ffydd y buasai yna ddigon o waith i fynd i ganu. Roedd yn dipyn o gam i wneud penderfyniad felly.
Efallai y byddai rhywun wedi cymryd y risg heddiw ond bryd hynny roedd hi'n bwysig cael swydd wrth gefn, ac efallai'r adeg hynny nad oedd dysgu'n yrfa mor ofnadwy o wirion efo'r holl waith papur sydd r诺an - doedd o ddim yn sugno'r nerth a'r egni a'r brwdfrydedd allan ohonach chi fel mae o heddiw.
Mae ail-gyhoeddi'r albym wedi dod allan o 'unlla. Mae pobl wedi lluchio eu chwaraewyr recordiau ers blynyddoedd. Mae'r hen feinyl acw yn yr atig ond doeddwn i ddim yn cofio hanner y caneuon! Mae'r holl beth yn annisgwyl!
Bydd albym Am Heddiw Mae Ngh芒n ar gael ar 3 Awst ac Eleri'n canu yn y T欧 Gwerin ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Efallai o ddiddordeb: