Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmn茂au dur Tata Steel a ThyssenKrupp i uno
Mae cwmn茂au dur Tata Steel a ThyssenKrupp wedi cytuno i uno i greu ail wneuthurwr dur mwyaf Ewrop.
Roedd trafodaethau wedi bod ar y gweill rhwng y ddau gwmi ers dros flwyddyn.
Mae'r cytundeb yn golygu y bydd safleoedd Tata yn y DU yn dod yn rhan o fenter ar draws Ewrop fydd a gwerthiant blynyddol o tua 拢13bn.
Bydd cynlluniau i ymestyn oes Ffwrnais rhif 5 ym Mhort Talbot yn mynd eu blaen fel rhan o'r cytundeb, gan ddod a rhagor o sicrwydd i'r ffatri sy'n cyflogi tua 4,000 o weithwyr.
'Cyhoeddiad arwyddocaol'
Enw'r cwmni newydd fydd ThyssenKrupp Tata Steel, ac fydd ei bencadlys yn yr Iseldiroedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod y cyhoeddiad yn un "arwyddocaol i'r diwydiant dur yn y DU".
Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y datblygiad, ond rhybuddiodd bod "gwaith eto i'w wneud."
Dywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock: "Er mwyn i'r fenter hon lwyddo a sicrhau dyfodol hirdymor y safle a'r diwydiant dur yn y DU, mae angen buddsoddiad parhaol uwch na'r hyn sy'n digwydd ar Ffwrnais rhif 5 ar hyn o bryd."
Dywedodd yr undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr Tata - Community, Unite a'r GMB - eu bod yn ystyried y bartneriaeth fel "y datrysiad gorau i sicrhau dyfodol hir dymor gwaith Tata Steel UK".
"Mae gweithwyr dur wedi gweithio'n galed i sicrhau dyfodol gwneud dur ym Mhrydain," meddai Roy Rickhuss, ysgrifennydd cyffredinol undeb gweithwyr dur Community.
"Fel rhan o'r fenter ar y cyd yma rydyn ni wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol ar draws busnes Tata Steel UK, gan gynnwys adfer ffwrnais rhip pump Post Talbot, allai ei weld yn gwneud dur nes o leiaf 2026
"Gydag ymrwymiad i osgoi diswyddiadau gorfodol nes Hydref 2026, a'r 拢200m cyntaf o elw yn cael ei fuddsoddi yn 么l yn y busnes, mae gan y fenter yma'r potensial i ddiogelu swyddi dur am genhedlaeth.
"Ond i fod yn llwyddiant mae'n rhaid gwneud buddsoddiadau strategol i alluogi'r busnes i ffynnu."
Mae'n debyg bod y trafodaethau wedi eu harafu gan gynllun pensiwn gweithwyr Tata.
Dri mis yn 么l, fe roddodd y rheoleiddiwr pensiynau s锚l bendith ar greu cronfa bensiwn newydd wedi i Tata gytuno i dalu 拢550m a rhoi cyfran ecwiti o 33% yn Tata Steel UK i'r gronfa.
Yn ddiweddar, mae ThyssenKrupp wedi wynebu pwysau gan gyfranddalwyr er mwyn sicrhau telerau gwell gan Tata.
Mae Tata a ThyssenKrupp eisoes wedi ymrwymo i'r safle ym Mhort Talbot, sef y safle dur mwyaf yn y DU.