Cynghorwyr Plaid Cymru'n cefnogi Leanne Wood
- Cyhoeddwyd
Mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru wedi ysgrifennu at eu harweinydd, Leanne Wood, i ddatgan eu cefnogaeth iddi.
Mae gan aelodau o gr诺p y blaid yn y Cynulliad tan 4 Gorffennaf i gynnig eu henwau ar gyfer herio'r arweinyddiaeth.
Yn unol 芒 rheolau'r blaid, mae'r cyfle hwnnw'n codi bob dwy flynedd.
Mae rhai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru, fel cyn-arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi awgrymu bod angen arweinydd newydd, ac mae tri Aelod Cynulliad - Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones - wedi arwyddo llythyr yn galw am gynnal gornest.
Ond mewn llythyr sydd wedi ei weld gan 大象传媒 Cymru, mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru yn datgan cefnogaeth i'r arweinydd presennol.
Maen nhw'n diolch i Leanne Wood am ei gwaith "yn teithio ar hyd a lled Cymru yn hyrwyddo cenhadaeth ac egwyddorion Plaid Cymru".
Maen nhw hefyd yn dadlau mae ymgyrch etholiadau 2017 dan ei harweinyddiaeth "oedd y mwyaf llwyddiannus yn hanes Plaid Cymru."
Mae'r gr诺p yn cynrychioli tua traean o gyfanswm cyngynhorwyr Plaid Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018