Galw am ailystyried trydaneiddio Caerdydd-Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae gr诺p o ASau wedi annog Llywodraeth y DU i ailystyried eu penderfyniad i beidio 芒 thrydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Dywedodd cadeirydd pwyllgor trafnidiaeth T欧'r Cyffredin, Lilian Greenwood y dylid edrych eto ar geisio lleihau costau'r cynlluniau gafodd eu gwrthod.
Ddyddiau wedi iddyn nhw gael eu dileu, cafodd cyllid ar gyfer Crossrail 2 yn Llundain ei gymeradwyo.
Doedd hi "ddim yn syndod", meddai Ms Greenwood, fod y penderfyniad hwnnw wedi "aildanio'r drafodaeth am yr anghyfartaledd" wrth fuddsoddi mewn rheilffyrdd ar draws y DU.
'Dim digon agored'
Yn ogystal 芒'r cynllun 拢430m rhwng Caerdydd ac Abertawe, roedd prosiectau trydaneiddio yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Lloegr hefyd ymhlith y rhai gafodd eu gwrthod ar sail y gost.
Yn gynharach eleni dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling wrth ASau nad oedd gwario cannoedd o filiynau ar y gwaith uwchraddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn "beth call i'w wneud".
Daeth i'r amlwg mewn adroddiad ym mis Mawrth gan y corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus mai'r Prif Weinidog Theresa May wnaeth wneud y penderfyniad i ddileu'r cynllun.
Fe wnaeth y pwyllgor argymell ail-gategoreiddio'r prosiectau fel bod rhagor o waith yn cael ei wneud ar y gwaith dylunio ac i geisio lleihau costau.
Cafodd Mr Grayling ei gyhuddo gan Ms Greenwood o beidio 芒 bod yn "fwy agored" pan gafodd ei gwestiynu gan y pwyllgor fel rhan o'r ymchwiliad.
"Dylai'r llywodraeth fod wedi bod yn fwy gonest a'r Senedd a'r cyhoedd am y gwir resymau y tu 么l i'r penderfyniad," meddai'r AS Llafur.
"Doedd cyhoeddiad gafodd ei wneud mewn datganiad ysgrifenedig ar y diwrnod olaf cyn y gwyliau haf ddim yn cynnig llawer o gyfle am drafodaeth a chraffu."
Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, ychwanegodd Ms Greenwood: "Does dim dwywaith bod problemau wedi bod wrth drydaneiddio prif lwybrau Great Western, ac mae'r rheiny'n hysbys.
"Ond dylai fod yn bosib gyda rhaglen dreiglol i ddod 芒'r costau hynny lawr allai olygu bod trydaneiddio'r llinellau yna yn ne Cymru yn bosib."
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017