Popeth ry'ch chi angen ei wybod am y tywydd poeth
- Cyhoeddwyd
Gyda rhagolygon tywydd yn ei addo hi'n sych a chynnes am o leia' pythefnos eto, dyma rai ffeithiau am y tywydd diweddar a chynghorion ar sut i gadw'n ddiogel:
Bu Cymru Fyw yn holi Rhian Haf, cyflwynydd tywydd 大象传媒 Cymru, am rai ffeithiau am Haf 2018
Pam mai Porthmadog yw'r ardal boethaf yng Nghymru?
"Gan fod y gwynt yn chwythu o'r gogledd-ddwyrain ar hyn o bryd, Porthmadog yw'r man cynhesa, wrth i'r gwynt gael ei chwythu dros fynyddoedd Eryri, ac i lawr yr ochr arall pan ma'r aer yn cael ei gywasgu, yn sychu ac yn cynhesu fwyfwy. Y term am hyn yw effaith 'FOEHN'."
Oes 'na law ar ei ffordd?
"Ar wah芒n i ambell gawod ddydd Mercher neu ddydd Iau yr wythnos hon - ac ambell gawod o law taranau yr wythnos nesa', fydd hi'n dal yn sych weddill yr wythnos, ac wythnos nesa' hefyd, a'r tymheredd dal yn uwch na'r arfer. "
Pryd oedd hi mor boeth 芒 hyn ddiwethaf?
"Y mis diwetha' oedd y mis Mehefin cynhesaf ar gofnod i Gymru a Gogledd Iwerddon. Ar gyfartaledd roedd y tymheredd yn 19.9C, fel ym mis Mehefin 1976, ac yn debyg i fis Mehefin 1940 pan roedd hi'n 20.6C ar gyfartaledd."
Pam ein bod ni'n cael cyfnod mor hir o wres a sychder ar hyn o bryd?
"Y rheswm am y gwres a'r sychder yw'r gwasgedd uchel dros y Deyrnas Unedig. Mi fydd yn gwanhau rhywfaint ganol yr wythnos, neith alluogi rhai cawodydd i ddatblygu, ond ddiwedd yr wythnos mi fydd gwasgedd uchel arall yn sefydlu dros y wlad, sy'n golygu y bydd hi'n troi'n sych i ni gyd eto, ac yn cynhesu fwyfwy erbyn y penwythnos."
Beth am lefel y paill?
"Mae lefel y paill yn debygol o fod yn uchel am y pythefnos nesa'. Gwair a chwyn sy'n gyfrifol am glefyd y gwair ar hyn o bryd."
Beth am gryfder yr haul?
"Mae lefel yr UV yn uchel iawn ar hyn o bryd - mae'r haul ar ei gryfa' ar yr adeg yma o'r flwyddyn, felly mae'n ddoeth i osgoi'r heulwen yn gynnar yn y p'nawn; cario d诺r pan yn teithio, ac yn ystod digwyddiadau mawrion. "
Sut fydd y tywydd ar gyfer y Sioe Fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol?!
"Mae hi'n anodd rhagweld y tywydd bron i dair wythnos o flaen llaw, ond does dim s么n y bydd y gwasgedd uchel yn symud oddi wrthon ni am sbel eto, er bod yna arwyddion y bydd y tywydd yn fwy ansefydlog ddiwedd mis Gorffennaf, efo gwynt o'r gorllewin, all ddod 芒 glaw. "
Sut i gadw'n ddiogel yn yr haul
Yfed digon o dd诺r
Osgoi bod allan yn haul cynnes y prynhawn
Gwisgo digon o eli haul rhag llosgi
Cau'r llenni i gadw'r t欧 yn oer
Sut i arbed d诺r
Yn 么l D诺r Cymru does dim problemau gyda ffynonellau d诺r ar hyn o bryd. Ond eu neges ydy i ddefnyddio cymaint o dd诺r yfed ag rydych ei angen, ond i beidio 芒'i wastraffu.
Dyma'u cyngor ar sut i arbed d诺r:
Diffodd y tap wrth olchi dannedd
Cymryd cawod yn lle bath
Mae'n bwysig i beidio 芒 chwtogi ar faint o dd诺r rydych yn ei yfed, ond cadwch jwg o dd诺r yn yr oergell fel nad oes rhaid i chi redeg y tap mor hir am ddiod oer
Llenwch y peiriant golchi llestri a'i osod ar 'eco' neu arhoswch a golchi eich llestri i gyd ar un tro
Defnyddiwch gan d诺r yn hytrach na phibell dd诺r i ddyfrio eich planhigion a blodau. Mae dyfrio yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y prynhawn yn lleihau anweddiad ac yn arbed d诺r.
Sut i edrych ar 么l anifeiliaid yn y tywydd poeth
Mae RSPCA Cymru yn rhybuddio perchnogion anifeiliaid a ffermwyr i gymryd gofal o'u hanifeiliaid yn y tywydd poeth.
Dyma rai cynghorion ar sut i ofalu am anifeiliaid mewn tywydd poeth:
Peidiwch 芒 gadael c诺n mewn cerbydau crasboeth. Yn 么l RSPCA gall tymheredd godi'n sydyn mewn ceir, carafanau a hyd yn oed stafelloedd gwydr (conservatories). Meddai llefarydd: "Pan mae'n 22C y tu allan, o fewn awr gall y tymheredd godi i 47C y tu mewn i gerbyd. Gall hwn achosi trawiad gwres a gall ladd c诺n."
Gwnewch yn si诺r bod gan anifeiliaid gysgod a d诺r gl芒n i yfed
Peidiwch 芒'u gor ymarfer nhw mewn gwres llethol
Os yw'r palmant yn rhy dwym i'ch llaw, mi fydd yn rhy dwym i bawennau
Rhowch bowlen dd诺r y ci yn y rhewgell cyn rhoi d诺r ynddo, neu rhoi ciwbiau i芒 yn y d诺r i'w gadw'n oerach am yn hirach
Rhowch dywelion damp i'r anifail orwedd arno
Ni ddylid cludo anifeiliaid mewn tywydd poeth heblaw ei fod yn hanfodol
Peidiwch 芒 gadael i anifeiliaid losgi yn yr haul
Cadwch danciau pysgod allan o'r haul a cadwch lefel y pwll d诺r yn uchel
Ffoniwch 999 i siarad gyda'r heddlu os gwelwch chi anifail mewn sefyllfa beryglus