Brexit: Gwneud dim 'ddim yn opsiwn' i ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Naw mis cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, mae academydd blaenllaw o fyd amaeth yn dweud bod yn rhaid i ffermwyr Cymru baratoi eu busnesau ar gyfer newid.
Mae'r Athro Wynne Jones wedi dweud wrth raglen Manylu ar 大象传媒 Radio Cymru bod "gwneud dim ddim yn opsiwn".
Mae'r rhaglen hefyd wedi clywed gan ffermwyr sydd eisoes wedi penderfynu addasu a rhoi'r gorau i gadw defaid.
Ond yn 么l cyfarwyddwr amaeth gyda banc HSBC mae'r bobl ifanc sy'n dod i mewn i'r diwydiant yn "rhoi hyder", er yr heriau.
Newid ar droed
Dywedodd yr Athro Jones mai'r "neges i'r ffermwyr ydy peidio cynhyrfu, gwneud y job 'da chi yn ei 'neud, cadw'r ffigyrau, a gweld sut mae newid ac addasu".
Roedd yr Athro Jones yn bennaeth Prifysgol Harper Adams yn Sir Amwythig am 13 mlynedd, a bellach mae'n gadeirydd bwrdd strategol Cyswllt Ffermio - sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth i ffermwyr.
"Bydd rhai yn penderfynu hwyrach i ymddeol a gadael, ond mae angen cael y meddylfryd bod 'na newid a dydy gwneud dim ddim yn opsiwn," meddai.
Un ffermwr sydd eisoes wedi addasu drwy roi'r gorau i gadw defaid ydy Paul Williams o Bentrefoelas yn Sir Conwy.
"Busnes 'da ni'n rhedeg ar ddiwedd y dydd felly 'da ni'n trin y fferm fel busnes sy'n golygu ein bod ni'n edrych ar ein ffigyrau yn fisol neu weithiau'n wythnosol," meddai.
"'Da ni'n ymwybodol o'n costau a ble mae'n incwm yn dod, ond un penderfyniad 'da ni wedi ei 'neud ydy rhoi'r gorau i gadw defaid."
'Torri traddodiad pum cenhedlaeth'
Canlyniad refferendwm Brexit ac ansicrwydd y farchnad ar gyfer 诺yn yn y dyfodol oedd y sbardun i fwrw 'mlaen 芒'r penderfyniad hwnnw.
"Mae'n debyg mai hwn oedd yr hwff olaf i gymryd y penderfyniad," meddai Mr Williams.
"'Dio ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd. Dwi'n torri traddodiad pum cenhedlaeth yma yng Nghae Haidd."
Allforion cig Cymru
Allforion cig oen a dafad o Gymru yn 2017 yn 拢133m;
Gwerth 96% yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd;
Traean o holl werthiant cig oen Cymreig yn mynd i'r UE.
Heriol fydd y dyfodol yn 么l Caryl Haf Jones, sy'n gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion ac yn ffermio yn Llanddewibrefi ger Tregaron.
"'Da ni wedi bod yn ddigon ffodus bod 'na deulu gyda ni sydd wedi rhoi fferm i ni," meddai.
"Ond i rywun sy'n dod i mewn i amaeth am y tro cyntaf mi fydd yn gyfnod anodd iddyn nhw achos fydda nhw ddim yn gwybod be' sydd o'u blaenau nhw.
"Ond yn bersonol 'da ni'n gobeithio symud y fferm ymlaen a symud amaethyddiaeth ymlaen a gweld be' allwn ni ei 'neud yn well hefo'r fferm heb orfod gwario gormod a dibynnu ar y taliadau, achos ni ddim yn gwybod faint o rheiny fydd gyda ni am y blynyddoedd nesa'."
Yn ei gwaith gyda'r undeb mae Brexit yn bwnc sy'n codi'n gyson.
"Dyw'r wybodaeth ddim yno er mwyn gallu plano ar gyfer y blynydde nesaf," meddai Ms Jones.
"Mae hynny'n dod lan yn aml a ma' nhw'n gofyn ydy'r undeb neu ydw i fel person yn gwybod mwy... ond ar hyn o bryd does neb yn gwybod dim mwy."
Ond er y pryderon am y dyfodol, mae agweddau cadarnhaol hefyd meddai Euryn Jones, cyfarwyddwr amaeth banc HSBC yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.
"Yr hyn sy'n rhoi hyder i mi o ran y dyfodol ydy ansawdd y bobl ifanc sydd yn y diwydiant ac sydd wedi dod mewn i'r diwydiant yn ddiweddar," meddai.
"Mae eu hagwedd nhw yn aml iawn yn arbennig o dda, maen nhw'n fasnachol eu hagwedd, maen nhw'n barod i newid ac yn barod i gydweithio hefo cwmn茂au eraill yn y gadwyn fwyd.
"Felly o ran y bobl sy'n dod i mewn i'r diwydiant mae hynny'n gallu rhoi hyder i ni unwaith eto y bydd amaethyddiaeth yn goroesi ac yn dod dros y sialens ddiweddara' yma."
Yn ddiweddarach yn y mis bydd Ysgrifennydd Amaeth Cymru, Lesley Griffiths yn cyhoeddi dogfen ymgynghorol ar ddyfodol taliadau yng Nghymru.
Mae hi eisoes wedi cyhoeddi y bydd y drefn bresennol o daliadau yn parhau ar gyfer 2019.
Yna bydd cyfnod o bontio i drefn newydd o daliadau dros o bum mlynedd.
Manylu: Dydd Iau 5 Gorffennaf am 12:30, ac ar ap iPlayer radio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018