大象传媒

Arddangos telyn arian o eisteddfod o'r 16eg Ganrif

  • Cyhoeddwyd
telyn arian MostynFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae gwobr eisteddfodol o'r 16eg Ganrif ymhlith yr arteffactau fydd yn cael eu dangos mewn arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ddydd Gwener fe fydd y Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas yn agor yr arddangosfa o gasgliad Neuadd Mostyn yn Sir y Fflint yn swyddogol.

Mae'r trysorau yn cael eu dangos ochr yn ochr 芒 dogfennau eraill gan yr Arglwydd Mostyn gafodd eu prynu gan y Llyfrgell union ganrif yn 么l, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn eu plith mae telyn fechan wedi'i gwneud o arian gafodd ei chyflwyno i gerddor gorau dwy eisteddfod gafodd eu cynnal gan deulu Mostyn yng Nghaerwys, Sir y Fflint yn 1523 a 1567.

'Trysor eisteddfodol'

Mae'n debyg bod yr eisteddfodau wedi cael eu cynnal gan y teulu er mwyn gwahaniaethu rhwng beirdd a diddanwyr go iawn, a chrwydriaid eraill.

Yn 1523 cafodd bathodyn y delyn arian ei gyflwyno gan Rhisiart ap Hywel o Fostyn i "delynor gorau gogledd Cymru", a 44 mlynedd yn ddiweddarach tro ei 诺yr William Mostyn oedd hi i'w gyflwyno.

Ers hynny mae'r bathodyn wedi cael ei gadw yn Neuadd Mostyn, ac ar hyn o bryd mae ar fenthyg i'r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o'r arddangosfa.

Dywedodd y Llyfrgell mai dyma yw'r wobr eisteddfodol gynharaf sydd wedi goroesi hyd heddiw, a'r arteffact cynharaf sy'n gallu cael ei gysylltu ag unrhyw eisteddfod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y casgliad ar gael i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth

Ymhlith y gwrthrychau eraill sy'n cael eu harddangos mae Cronicl Elis Gruffydd, ysgrif Cymraeg o'r 16eg Ganrif sydd wedi ei chydnabod yn ddiweddar gan UNESCO.

Bydd hefyd modd gweld llawlyfr meddygol o tua 1488 gan y bardd Gutun Owain o abaty Valle Crucis ger Llangollen, a chasgliad o gerddi gan Tomos Prys o Blas Iolyn, m么r-leidr a fu farw yn 1634.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: "Mae hwn yn gyfle prin i ni fel Cymry gael gweld un o'n creiriau diwylliannol pwysicaf.

"Yn anaml iawn y bydd y delyn arian yn gadael diogelwch Plasty Mostyn, nad yw'n agored i'r cyhoedd.

"Dylid manteisio ar y cyfle eleni i ymweld 芒 thrysor eisteddfodol sydd, wedi'r cyfan, yn h欧n na phob coron, cadair a regalia gorseddol a feddwn fel cenedl."