Tregaron i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2020
- Cyhoeddwyd
Tregaron fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol pan fydd yn ymweld 芒 Cheredigion yn 2020.
Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld 芒'r dref, ac mae'n chwarter canrif ers iddi gael ei chynnal yng Ngheredigion.
Yn 1992 cafodd y brifwyl ei chynnal yn Aberystwyth.
Bydd maes yr Eisteddfod yn 2020 ar gyrion gogleddol Tregaron, ar y naill ochr i'r A485 tuag at Aberystwyth.
'Croeso cynnes'
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn: "O'r diwedd, wedi misoedd o chwilio am safleoedd addas lan a lawr y sir, daeth y newyddion roedd pob un o garedigion yr Eisteddfod yng Ngheredigion yn aros amdano.
"Dewis Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod yw mai Tregaron yng nghanol y sir fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.
"Edrychwn ymlaen yn eiddgar at groesawu eisteddfodwyr o bob rhan o Gymru yma yn Awst 2020."
Dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'n braf cyhoeddi bod yr Eisteddfod yn dychwelyd i ardal Ceredigion ymhen dwy flynedd.
"Dyma'r tro cyntaf i'r 诺yl ymweld 芒 thref Tregaron, ac rwy'n sicr y bydd t卯m cryf o gefnogwyr a gwirfoddolwyr ar lawr gwlad i gydweithio gyda ni dros y ddwy flynedd nesaf."
'Penllanw misoedd o gydweithio'
Ychwanegodd Betsan Moses, fydd yn olynu Mr Roberts fel prif weithredwr yr Eisteddfod wedi'r Brifwyl yng Nghaerdydd eleni, fod y cyhoeddiad yn "benllanw misoedd o gydweithio rhwng yr Eisteddfod a'r cyngor lleol".
"Braf yw dweud ein bod wedi datblygu perthynas arbennig o dda gyda'r swyddogion a'r aelodau'n lleol," meddai.
"Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio yng Ngheredigion o gychwyn y prosiect, ac rwy'n sicr bod dwy flynedd gyffrous o'n blaenau wrth i ni gydweithio er mwyn creu Eisteddfod i'w chofio, gan ddechrau gyda'r cyfarfod cyhoeddus ym mis Medi."
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Aberaeron ar 20 Medi i drafod ymweliad yr Eisteddfod 芒'r ardal.
Yn y cyfarfod hwnnw bydd cyfle i drafod sut y gellir bod yn rhan o'r t卯m fydd yn llywio'r gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017