大象传媒

Jones yn galw am etholiad wedi i Johnson a Davis adael

  • Cyhoeddwyd
boris johnson a david davisFfynhonnell y llun, PA/Reuters

Mae prif weinidog Cymru wedi dweud fod angen cynnal etholiad cyffredinol arall yn sgil ymddiswyddiadau diweddaraf o gabinet o Lywodraeth y DU.

Daw'r sylw ar 么l i Boris Johnson a David Davis ymddiswyddo o gabinet Theresa May yn dilyn ei chynllun Brexit diweddaraf.

Mae'r cynllun newydd wedi cael ei feirniadu gan rai o'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd am ffafrio 'Brexit meddal'.

Dywedodd Carwyn Jones wrth 大象传媒 Cymru fod y sefyllfa bresennol yn "llanast llwyr" ac na all Prydain "barhau fel hyn".

Yn 么l Mr Jones, etholiad cyffredinol yw'r "unig ffordd i ddatrys hyn".

Daeth ymddiswyddiad Mr Johnson fel yr Ysgrifennydd Tramor ychydig cyn i Mrs May drafod y cynllun Brexit newydd yn Nh欧'r Cyffredin.

Mae'r cyn-weinidog tai, Dominic Raab bellach wedi ei benodi'n weinidog yn yr Adran Brexit, yn dilyn ymadawiad Mr Davis fel yr Ysgrifennydd.

Dywedodd Mrs May nad oedd hi'n cytuno gyda'r ddau gyn-weinidog ynghylch y "ffordd orau i barchu" canlyniad y refferendwm yn 2016.

Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019, ond nid yw'r ddwy ochr wedi penderfynu sut y bydd masnach yn gweithio wedi'r hollt.

Wrth ymateb i ymddiswyddiad Mr Johnson dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Chris Davies ei fod yn "siomedig" ond yn "anochel".

Ond ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wir eisiau gweld newid i'r arweinyddiaeth."

Ychwanegodd AS Maldwyn Glyn Davies, fu'n bresennol mewn cyfarfod o gr诺p dylanwadol o ASau Ceidwadol yn dilyn yr ymddiswyddiadau, fod "cefnogaeth sylweddol" i Mrs May.

"Doedd hon ddim yn brif weinidog dan fygythiad - roedd hon yn brif weinidog mewn rheolaeth," meddai.

Dan gynlluniau Mrs May byddai'r DU yn cadw "rheolau cyffredin" ar gyfer holl nwyddau gyda'r UE, gan gynnwys ar amaeth, yn dilyn Brexit.

Er mwyn osgoi ffin galed rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon byddai'r DU hefyd yn cynnig "trefniant dollau" ble byddan nhw'n gweinyddu unrhyw ffioedd ar gyfer nwyddau fyddai'n mynd i'r UE yn y pen draw.

Ond mae nifer o ASau sydd o blaid Brexit wedi beirniadu'r cynnig am fod yn rhy debyg i aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

'Brexit synhwyrol'

Dywedodd Mr Jones yn credu fod angen llywodraeth wahanol sydd 芒 safbwynt gwahanol am Brexit er mwyn sicrhau Brexit "synhwyrol".

Ychwanegodd fod y cynllun presennol yn cael ei arwain gan "ddeinameg fewnol plaid sydd wedi ei hollti".

"Dyma'r amser i bobl gall ddod yn eu blaen - fel mae busnesau yn ei wneud - a dweud 'er ein bod ni'n parchu canlyniad y refferendwm mae angen sicrhau'r Brexit gorau i Brydain', nid un sy'n gweithio ar gyfer gr诺p bach o bobl gyfoethog iawn," meddai.

Disgrifiad,

David Davies AS: "Fe allen i fyw gyda'r cytundeb"

Ond mae AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards wedi cwestiynu diben cynnal etholiad cyffredinol arall gan fod "Llafur gyda'r un polisi" 芒'r Ceidwadwyr ar Brexit.

Yn gynharach fe wnaeth AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb - oedd o blaid Aros yn y refferendwm - ganmol Mrs May am gytundeb "pragmataidd, synnwyr cyffredin".

"Wrth galon cynllun y prif weinidog yw'r ddealltwriaeth synnwyr cyffredin y bydd gweithgynhyrchu modern yn Ewrop yn cael ei wneud yn unol 芒 rheoleiddiau'r UE," meddai wrth Good Morning Wales.

Dywedodd AS Mynwy David Davies, oedd o blaid Gadael, y byddai'n well ganddo Brexit "glan, caled", ond fod cynnig Mrs May yn "gyfaddawd bl锚r, gwael - ond un y bydden i'n byw gyda".