Cyflogau Cymry'r 大象传媒 2018
- Cyhoeddwyd
Am yr ail dro, mae'r 大象传媒 wedi cyhoeddi cyflogau eu staff sydd yn ennill mwy na 拢150,000 gan y gorfforaeth yn 2017/18.
Mae'r bobl sydd ar frig y rhestr yn cynnwys cyflwynwyr enwocaf y 大象传媒, ac mae ambell i Gymro yn eu plith.
Huw Edwards 拢520,000 - 拢529,999
Cyflwynydd News at Ten, Huw Edwards, sydd ar frig rhestr y Cymry, ac mae'n bumed yn y rhestr o'r 12 staff sydd yn ennill y cyflog mwyaf. Mae wedi gweithio rhyw 180 o ddyddiau cyflwyno eleni, ar 大象传媒 One a'r News Channel - gan gynnwys rhaglenni newyddion arbennig, fel etholiadau. Ymunodd 芒'r 大象传媒 gyntaf yn 1984, ac mae'n un o wynebau mwyaf cyfarwydd y 大象传媒.
John Humphrys 拢400,000 - 拢409,999
Mae John wedi disgyn i'r ail safle yn rhestr y Cymry eleni, ac mae'n nawfed yn rhestr 12 uchaf y 大象传媒 - yn gyfartal 芒 Nick Grimshaw, Stephen Nolan ac Andrew Marr.
Er fod y newyddiadurwr wedi cyflwyno 140 o benodau rhaglen Today eleni, mae wedi cael gostyngiad cyflog sylweddol o'r hyn oedd yn ei ennill y llynedd, sef 拢600,000 - 拢649,999. Mae hyn yn unol 芒 phenderfyniad chwe chyflwynydd gwrywaidd (gan gynnwys Huw Edwards a John Humphrys) i gymryd gostyngiad cyflog, er mwyn ceisio lleihau'r gwahaniaeth yng nghyflogau staff gwrywaidd a benywaidd y 大象传媒.
Jason Mohammad 拢260,000 - 拢269,999
Mae gan Jason Mohammad sioe ddyddiol ar Radio Wales, rhaglenni wythnosol ar 5 Live a Radio 2 ac mae'n cyflwyno amryw o raglenni p锚l-droed a snwcer. Ei gyflog y llynedd oedd 拢250,000 - 拢299,999.
Jeremy Bowen 拢200,000 - 拢209,999
Jeremy yw Golygydd y Dwyrain Canol ers 2005, ac mae'n derbyn ychydig mwy o gyflog eleni. Roedd yn ennill 拢150,000-拢199,999 y llynedd. Mae'n wreiddiol o Gaerdydd ac wedi gweithio i'r 大象传媒 ers 1984.
Rhodri Talfan Davies 拢160,000 - 拢169,999
Rhodri yw cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, a hynny ers 2011. Dechreuodd 芒'r 大象传媒 yn 1993, ac mae wedi gweithio ar draws Prydain fel newyddiadurwr. Dychwelodd i Gaerdydd at 大象传媒 Cymru yn 2006.
Pwy sydd ar goll o'r rhestr?
Ond mae dau enw blaenllaw oedd ar ein rhestr ni o Gymry y llynedd ar goll.
Nid yw cyflog Alex Jones na Jonathan Davies yn cael eu datgelu yn y rhestr.
Mae cyflog Alex Jones, cyflwynydd The One Show, bellach yn cael ei dalu drwy 大象传媒 Studios yn hytrach na chael ei ariannu gan ffi'r drwydded.
Mae'r un peth yn wir am gyflwynwyr benywaidd eraill fel Claudia Winkleman am Strictly Come Dancing a Fiona Bruce am Antiques Roadshow.
Mae'r ffaith fod cyn lleied o ferched ym mhen uchaf y rhestr o gyflogau wedi codi gwrychyn rhai. Yn 么l y 大象传媒, nid yw hyn yn adlewyrchiad teg o'r cydbwysedd cyflog rhwng dynion a merched, gan fod cyflogau sydd yn dod o dan 大象传媒 Studios ddim yn cael eu datgelu.
O ran y sylwebydd rygbi, Jonathan Davies, nid yw ei gyflog o goffrau'r 大象传媒 eleni yn cyrraedd y trothwy o 拢150,000 sy'n fan cychwyn i'r rhestr gyflogau.