Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Prinder cyfleusterau yn atal pobl anabl, medd ymgyrchwyr
- Awdur, Rhys Williams
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae ymgyrchwyr yn honni fod prinder cyfleusterau ac offer yn atal pobl anabl ledled Cymru rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Dywedodd yr ymgyrchwyr bod gormod o ffocws ar geisio dod o hyd i Baralympwyr a bod hynny ar draul darparu cymorth yn lleol.
Daw'r sylwadau ar 么l i arolwg gan Chwaraeon Cymru yn gynharach eleni awgrymu bod pobl yn credu bod mynediad i chwaraeon i bobl anabl yn "anghyson iawn".
Yn 么l Chwaraeon Anabledd Cymru maen nhw wedi derbyn adborth sy'n rhoi "stori gadarnhaol" a bod cyfleoedd i bobl anabl yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn.
Mae Gordon Harries, sy'n 53 oed ac yn ddall, yn cwblhau siwrnai o dros dair awr er mwyn chwarae bowls.
Mae'n teithio o Giliau Aeron yng Ngheredigion i Abertawe i fynychu sesiynau'r clwb i bobl ddall yn Llandarsi.
"Mae'r bws yn pigo fi lan ar y sgw芒r yng Nghiliau Aeron marce 08:30, wedyn dwi'n dal y bws i fynd i ddal y tr锚n yng Nghaerfyrddin, ac os ar amser yn gadael am byti 10:05, mynd lawr i Abertawe, mewn i dacsi yn Abertawe a draw i'r stadiwm i 'whare.
"Ac wedyn yr un peth ar y ffordd n么l... a chyrraedd adre marce 17:30 y nos."
Mae'n teithio hyd at deirgwaith yr wythnos yn ystod y gaeaf.
"Mae e'n galed yn y gaeaf achos mae'n dywyll, a hefyd ar y bws ar y ffordd n么l dwi ddim yn gwybod ble ydw i, felly dwi'n dibynnu ar y dreifwr."
Aeth Gordon yn ddall yn ei 20iau hwyr ac yn gweithio fel plymwr i Gyngor Ceredigion.
Collodd e olwg ymylol mewn un llygad ac aeth ei lygad arall yn hollol ddall.
Cafodd ei ail hyfforddi i weithio mewn swyddfa ond roedd y sgrin yn achosi pen tost iddo ac roedd rhaid iddo ymddeol.
Bowls yw ei angerdd bellach, ond y clwb agosaf sydd 芒 chyfleusterau digonol yw Abertawe.
"Be sy'n hyfryd ambyti Abertawe yw mai byti dwsin o ni yn yr haf yn whare, a ni gyd 芒 rhyw fath o broblem golwg, felly ni yn yr un sefyllfa a ni'n dod 'mlaen yn dda o achos hynny, a phob un yn rhoi hwb i'r llall."
Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Chwaraeon Cymru adborth gan tua 600 o bobl fydd yn gyfrifol am arwain eu gweledigaeth ar gyfer chwaraeon y dyfodol.
Mae'r adborth yn dweud bod "mynediad i chwaraeon i blant anabl ac oedolion i'w canfod yn anghyson mewn nifer o ardaloedd ac ar draws nifer o gampau... gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol i'r cyfleuster chwaraeon yn aml yn brin".
Roedd yr adborth hefyd yn dweud bod "y ddarpariaeth o chwaraeon anabl yn aml wedi'i ddylunio tuag at gystadleuaeth, gyda llai o gymorth i... 'weithgareddau corfforol cyffredinol'."
Mae Mr Harries yn dweud ei fod yn cytuno bod angen gwneud mwy.
"Mae'n siomedig iawn... os o'n i ddim wedi gweld y gemau yn yr Alban chwe blynedd yn 么l, byddwn i ddim yn gwybod bod clwb i'r dall i gael," meddai.
"Yn fy marn i s'dim digon o wybodaeth mas yna a dyna lle wy'n gobeithio alla i helpu, byddai'n mynd mas a dweud wrtho bobl beth sydd i gael a beth allen ni neud i helpu.
"Does dim cyfleusterau, mae Ceredigion, yn anffodus, blynydde tu 么l i bawb arall.
"Dwi wedi dechrau, neu wedi rhoi fy mys yn y d诺r i drial dechrau clwb i'r anabl yn Aberaeron.
"I ni'n gobeithio dechrau rhywbeth fel i ni'n gallu rhoi siawns i bobl Sir Ceredigion heb orfod trafeili yr holl ffordd lawr i Abertawe."
Yn 么l Chwaraeon Anabledd Cymru, maen nhw'n croesawu safbwyntiau sydd yn caniat谩u iddyn nhw wneud "newidiadau er gwell".
'Prif ffocws'
Yn 么l Gerwyn Owen, rheolwr perfformiad yr elusen, mae digon o gyfleoedd ar gael i bobl sydd ag anableddau drwy Gymru gyfan.
"'Da ni yn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio efo chwaraeon i sicrhau bod yna cynnig cynhwysol," meddai.
"Mae 'na 1.7 miliwn o gyfleoedd i bobl ag anableddau i gymryd rhan, mae 'na dros 7,000 o aelodau mewn clybiau, mae 'na dros 350 o glybiau sydd yn gynhwysol.
"Yr her ydy i dyfu hynna... trwy gydweithio, a dyna'r prif bwynt sydd angen ei wneud, bod ni angen cydweithio gyda'n partneriaethau ni."
Mae Mr Owen yn gwadu bod gormod o ffocws ar hyn o bryd ar ddod o hyd i Baralympwyr yn hytrach na ddarparu cymorth yn lleol.
"Mae 70% o'n harian ni yn mynd tuag at y gymuned, a hynna ydi'r prif ffocws," meddai.
"Ac wrth gwrs pan mae 'na cyn gymaint o bobl, dros 7,000 o bobl yn cymryd rhan mewn clybiau, wrth gwrs 'da ni'n mynd i dargedu.
"A dyna fy ngwaith i ar yr ochr perfformiad, ydy targedu'r unigolion yna i fynd ymlaen i berfformio i Gymru ac i Brydain."