大象传媒

Gwariant ar ddisgyblion wedi gostwng tua 拢300 y pen

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyfartaledd gwariant ar bob disgybl yng Nghymru wedi gostwng tua 拢300 dros yr wyth mlynedd diwethaf ac mae e 拢100 yn llai na'r ffigwr i Loegr, yn 么l ymchwil newydd.

Ond mae dadansoddiad yr Institute for Fiscal Studies (IFS) yn awgrymu bod y bwlch rhwng gwariant Cymru a Lloegr fwy neu lai wedi "ei ddileu" ers yr amcangyfrif diwethaf.

Mae hynny'n bennaf oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion yn Lloegr.

Dywedodd un undeb dysgu bod yr "esgid yn gwasgu go iawn" i bob ysgol yng Nghymru.

Mae dadansoddiad yr IFS yn seiliedig ar wariant gan y llywodraeth ar ddisgyblion 3 i 18 oed.

Bron i ddegawd yn 么l, roedd ystadegau Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod Lloegr yn gwario tua 拢600 yn fwy y disgybl na Chymru.

Ond dywedodd y llywodraeth wedi hynny na fyddan nhw bellach yn cyhoeddi'r gymhariaeth oherwydd bod cyfundrefnau addysg y ddwy wlad yn mynd yn fwyfwy gwahanol.

Mae'r IFS bellach wedi ailedrych ar ffigyrau 2009-10 a dweud bod y gwahaniaeth yn agosach at 拢300 bryd hynny, ar 么l cynnwys mwy o ddisgyblion yn Lloegr.

Yn 2009, roedd gwariant y disgybl yng Nghymru tua 拢6,100 y disgybl ond mae wedi gostwng 5% ers hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffigyrau'r IFS yn seiliedig ar wariant ar ddisgyblion 3 i 18 oed

Yn 么l yr IFS, roedd gwariant y disgybl yng Nghymru yn 2017-18 yn 拢5,763.

Dywedodd swyddog polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Rebecca Williams, bod y gymhariaeth gyda Lloegr yn "llai a llai defnyddiol" er ei fod yn cynnig "rhyw fath o feincnod".

'Sefyllfa argyfyngus'

"Ar y wyneb, mae'n edrych yn galonogol yndyw e, hynny yw bod lefelau ariannu Cymru a Lloegr wedi cau," meddai.

"Ond mewn gwirionedd os y'ch chi'n mynd ychydig bach dan y wyneb, dyw'r stori ddim yn un cadarnhaol, oherwydd mae'n dangos bod cyllideb y pen mewn termau real wedi cwympo o 5% yng Nghymru, dim ond ei fod e wedi cwympo ymhellach yn Lloegr.

"Beth sy'n bwysig i nodi yw bod e wedi gostwng yn y ddwy wlad ers 2009, a dyna beth mae plant yn ei deimlo yn yr ysgolion.

"Mae sefyllfa ariannol ysgolion wedi mynd yn argyfyngus - a dwi ddim yn defnyddio'r gair yn ysgafn.

"Mae'r esgid yn gwasgu go iawn nawr ac i'w deimlo ym mhob un ysgol yng Nghymru yn gynradd ac yn uwchradd."

'Stori wahanol'

Fodd bynnag, mae Rex Phillips, Swyddog Cenedlaethol Cymru NASUWT, yn dweud bod eu ffigyrau nhw yn adrodd "stori wahanol" a bod 拢678 o fwlch mewn gwariant ar bob disgybl rhwng Cymru a Lloegr yn 2015-6.

Yn wahanol i ymchwil yr IFS, mae eu hymchwil nhw'n ystyried bob ffynhonnell gyllid wrth edrych ar wariant mewn ysgolion, ac nid dim ond ar wariant y llywodraeth.

Dywedodd Mr Phillips fod angen edrych ar wariant i ysgolion "ar frys", a bod angen i flynyddoedd o danfuddsoddi yn ysgolion Cymru ddod i ben.

Er yn cydnabod bod y ffigyrau'n wahanol, ychwanegodd fod adroddiad yr IFS hefyd "yn dangos yn glir" bod yr arian sy'n cael ei ddynodi i ysgolion yn lleihau yn frawychus o sydyn.

Llai o doriadau

Yn 么l yr IFS mae'r gwahaniaeth yn yr hyn sy'n cael ei wario rhwng Cymru a Lloegr wedi lleihau oherwydd bod toriadau Cymru (5%) yn llai na rhai Lloegr (8%).

Un o'r prif resymau am hynny yw bod 700,000 o ddisgyblion ychwanegol yn Lloegr - cynnydd o 10% dros wyth mlynedd - tra bod rhifau wedi aros yn eithaf cyson yng Nghymru.

Mae gwariant y pen yn amrywio ar draws Cymru a ffigyrau diweddar yn dangos mai Powys sy'n gwario fwyaf ar gyfartaledd (拢6,456) tra bod Bro Morgannwg yn gwario'r lleiaf (拢5,107).