G诺yl yn agor i ddathlu treftadaeth ardal Ffestiniog
- Cyhoeddwyd
Cafodd g诺yl sy'n dathlu treftadaeth chwarelyddol ardal Ffestiniog ei hagor yn swyddogol brynhawn Sadwrn.
Mae G诺yl Lechi Bro Ffestiniog yn cynnwys wythnos o weithgareddau ac wedi'i threfnu i atgyfnerthu cais br枚ydd llechi Gwynedd am statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae'r cais hwnnw'n cwmpasu saith o ardaloedd sydd ynghlwm a'r diwydiant llechi, o Dinorwig a Dyffryn Ogwen i Abergynolwyn ac Aberllefenni.
Fel rhan o'r dathliadau ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn, cafodd ffanffer oedd wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer y digwyddiad ei chlywed am y tro cyntaf yn gyhoeddus, wrth i Seindorf yr Oakeley ei pherfformio.
Mewn gorymdaith ar hyd hen lwybr sy'n cysylltu'r chwareli a'r dref, cafodd nifer o faneri eu cario -un yn dyddio o'r frwydr am hawliau chwarelwyr oedd yn dioddef o silicosis yn y 1970au, ac eraill wedi eu cynllunio'n ddiweddar gan ddisgyblion ysgolion y Moelwyn a Maenofferen.
Hefyd yn rhan o'r dathliadau mae G诺yl Car Gwyllt - g诺yl o gerddoriaeth, fydd yn dod i derfyn gyda pherfformiad cyhoeddus cyntaf y band Anweledig ers blynyddoedd.
Mae disgwyl i gais ardaloedd llechi Gwynedd am statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO fynd gerbron Llywodraeth y DU ym mis Medi, gyda phenderfyniad gan UNESCO yn 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2018