大象传媒

Pysgotwr yn dal siarc oddi ar arfordir Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Llwynog y MorFfynhonnell y llun, Andy Truelove
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gymrodd hi ddwy awr i George Simmonds, 51 oed i ddal Llwynog y M么r (Thresher Shark) ar ei gwch ger Dale.

Mae pysgotwr o Lanelli wedi dal un o'r siarcod mwyaf i erioed gael ei ddal ym moroedd Cymru, a hynny oddi ar arfordir Sir Benfro.

Fe gymrodd hi ddwy awr i George Simmonds, 51 oed i ddal Llwynog y M么r (Thresher Shark) ar ei gwch ger Dale.

Roedd y siarc yn mesur 12 troedfedd wyth modfedd o hyd, ac roedd angen help tri dyn arall ar Mr Simmonds i dynnu'r siarc o'r m么r.

"Dwi wedi bod yn pysgota ers yn blentyn, a dwi wedi bod dros y byd yn pysgota - ond roedd hwn yn foment fawr ac yn llwyddiant personol i mi," meddai Mr Simmonds.

Ffynhonnell y llun, Andy Truelove
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gred yw mai dim ond tri Llwynog y M么r sydd erioed wedi cael ei dal oddi ar arfordir Cymru, gyda'r record ddiwethaf yn cael ei osod yn 2015

Roedd Meirion Williams o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n trefnu tripiau pysgota siarcod yn ystod yr haf yn Sir Benfro gyda Mr Simmonds ar y cwch.

Y gred yw mai dim ond tri Llwynog y M么r sydd erioed wedi cael ei dal oddi ar arfordir Cymru, gyda'r record ddiwethaf yn cael ei osod yn 2015.

Yn 么l Mr Williams does dim modd iddyn nhw ddatgan y record yn swyddogol y tro hwn gan iddyn nhw beidio 芒 lladd y siarc.

Ychwanegodd Mr Simmonds: "Roedd y siarc mor fawr doedd prin yn ffitio ar y cwch. Fe wnaethom ei roi yn 么l yn y m么r yn syth, ac fe nofiodd i ffwrdd yn braf."