大象传媒

拢7.2m i ddenu pobl ifanc at wyddoniaeth a thechnoleg

  • Cyhoeddwyd
Tim PeakeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Tim Peake yn lansio'r cynllun yn Tramshed yng Nghaerdydd ddydd Mawrth

Bydd y gofodwr Tim Peake yn lansio cynllun 拢7.2m ddydd Mawrth i annog mwy o bobl ifanc Cymru i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Dros y pedair blynedd nesaf bydd dau brosiect yn gweithio gyda 4,200 o bobl ifanc, gan ganolbwyntio'n benodol ar ferched.

Nod cynllun Llywodraeth Cymru yw cael mwy o ddisgyblion i astudio'r pynciau - sy'n cael eu galw'n bynciau STEM - i lefel TGAU ac ymhellach.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan bod yr Uwchgapten Peake yn "dangos pa mor bell, yn llythrennol, y gall gwyddoniaeth fynd 芒 chi".

Canolbwyntio ar ferched

Mae'r cynlluniau wedi'u hanelu at ferched yn benodol, wedi i ffigyrau ddangos mai dim ond un o bob chwe gweithiwr yn y sector gwyddoniaeth sy'n fenywod.

Cafodd ei ddatgelu hefyd mai dim ond 12% o fyfyrwyr peirianneg a thechnoleg sy'n ferched.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Tim Peake dreulio chwe mis yn y ganolfan ofod rhyngwladol yn 2016

Fe wnaeth yr Uwchgapten Peake ddychwelyd i'r Ddaear ym mis Mehefin 2016 ar 么l treulio chwe mis yn y gofod.

Yn y cyhoeddiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth bydd 拢5.3m yn cael ei roi i brosiect Technocamps 2 Prifysgol Abertawe, ac 拢1.9 i gynllun STEM Gogledd Cyngor Gwynedd.

"Mae'n rhaid i Gymru fod yn genedl sy'n ymwneud 芒 phynciau STEM os ydyn ni i ddatblygu economi agored, ddeinamig, fodern y bydd pawb yng Nghymru yn elwa arni," meddai Ms Morgan.

"Mae graddfa a natur y newidiadau sy'n digwydd yn dechnolegol yn cynyddu'n ddramatig ac, er mwyn sicrhau gweithlu medrus sy'n gallu manteisio ar hynny, mae'n hanfodol bod mwy o'n pobl ifanc yn dewis astudio pynciau STEM i safon ddigon uchel."