大象传媒

Beirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru am gytundebau coed

  • Cyhoeddwyd
Cyfoeth naturiolFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am goetiroedd cyhoeddus yng Nghymru

Mae asiantaeth amgylcheddol wedi gwerthu coed unwaith eto heb gystadleuaeth marchnad agored, ac felly wedi esgor ar adroddiad beirniadol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llunio 59 cytundeb gyda thri chwmni, a hynny wedi iddyn nhw gael eu beirniadu am gytundeb hirdymor nad oedd wedi cael ei roi i dendr.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas yn dweud bod rhai o'r cytundebau i brynu coetiroedd cyhoeddus ddim yn gyfreithiol.

Mae CNC wedi dweud y byddan nhw'n sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

Yn y gorffennol mae'r archwilydd cyffredinol wedi beirniadu CNC am wyth cytundeb 10 mlynedd i werthu coed i BSW Timber heb dendr.

Ar y pryd doedd yr Archwilydd Cyffredinol ddim o'r farn bod y cytundebau yn gyfreithiol, ac mae wedi lleisio yr un pryderon am gytundebau sydd wedi cael eu gwneud wedi hynny.

Cytundebau 芒'r un cwmni

Mae 21 o'r cytundebau newydd - gafodd eu creu wedi i'r cytundebau gwreiddiol ddod i ben - hefyd gyda chwmni BSW Timber neu gyda chwmni sy'n eiddo i BSW Timber.

Fe gynhyrchodd y cytundebau 拢2.76m yn 2017/18.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Vaughan Thomas yn credu nad yw CNC wedi cymryd y camau cywir wrth ffurfio'r cytundebau

Dywedodd Mr Thomas: "Dwi ddim yn credu bod CNC wedi ystyried gwerth y coed a werthwyd ar y farchnad."

Dyma'r trydydd tro i'r archwilydd cyffredinol leisio pryderon am sut y mae CNC yn rheoli eu gwerthiant coed.

Yn 2014 fe luniodd CNC gytundeb gyda BSW Timber i werthu gwerth 拢72m o goed, a hynny heb fynd i'r farchnad agored.

Ond yn 么l CNC roedd yn rhaid iddynt ddosbarthu cytundebau yn fuan er mwyn atal lledaenu'r clefyd Phytophthora Ramorum mewn coed llarwydd.

Dim tendr

Roedd BSW Timber wedi addo codi cyfarpar llifio fel rhan o'r cytundeb gwreiddiol ond erbyn Chwefror 2017 ddigwyddodd hynny ddim ac fe ddaeth y cytundebau i ben.

Ym mis Mawrth y flwyddyn honno fe aeth CNC i drafodaethau gyda'r cwmni am "drefniadau pontio o dan gytundeb", sef y cyfnod rhwng diwedd yr hen gytundebau a'r cyfnod o ailwerthu'r coed.

Ni roddwyd y cytundebau newydd ar dendr - rhywbeth ddiflannodd o bolisi CNC, medd yr Archwilydd Cyffredinol.

Fe fethodd CNC 芒 chofnodi'r penderfyniadau a wnaed yn gywir ac ni hysbyswyd Llywodraeth Cymru er bod natur y cytundebau yn gorchymyn hynny.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru

"Yn Chwefror 2017, Roedd CNC yn wynebu sefyllfa lle'r oedd nifer o gytundebau coed yn dod i ben ar ddiwedd Mawrth 2017," meddai Mr Vaughan Thomas.

"Ac felly roedd angen i drefniadau gael eu gwneud i sicrhau na fyddai diweddu'r cytundebau yn cael effaith negyddol ar broseswyr a chwsmeriaid coed - ynghyd ac ar incwm CNC eu hunain.

"Roedd yn rhaid i CNC weithredu'n fuan ond yn eu brys fe fethon nhw 芒 dilyn y prosesau cywir ac egwyddorion llywodraethu da."

"Fe fethodd 13 cytundeb gwrdd 芒 gofynion y rheolau sy'n llywodraethu CNC. Dwi felly yn credu nad ydynt yn gyfreithiol."

Mewn adroddiad newydd mae'n dweud nad yw CNC wedi cymryd ei ganfyddiadau blaenorol yn "ddigon o ddifrif".

'Materion difrifol'

Dywedodd prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman: "Rwy'n derbyn canfyddiadau'r Archwilydd Cyffredinol yn llwyr.

"Mae'r rhain yn faterion difrifol ac rwy'n barod i ddysgu gwersi a sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

"Mae'r materion a nodir yma yn dangos nad ydym wedi cyflawni'r safonau uchel disgwyliedig."