大象传媒

Cyn-AS Llafur: 'Cymru angen llywodraethau gwahanol'

  • Cyhoeddwyd
jon owen jones

Mae cyn-AS Llafur o Gymru wedi dweud y byddai'n well i'r wlad gael "gwahanol lywodraethau" mewn grym ym Mae Caerdydd.

Ond dywedodd Jon Owen Jones ei fod yn "siomedig" 芒 safon y gwrthbleidiau presennol, gan gwestiynu eu gallu i herio'r blaid Lafur.

Mr Jones oed AS Canol Caerdydd rhwng 1992 a 2005, gan ymgyrchu'n frwd dros ddatganoli.

Ond dywedodd nad oedd yn "hapus" gyda'r polis茂au oedd wedi eu dilyn ers i'r Cynulliad gael ei sefydlu.

'Gwrthod gwneud pethau'

Mewn cyfweliad gyda Guto Harri ar gyfer ei gyfres o bodlediadau ar Radio Cymru, Pryd o Drafod, dywedodd y byddai wedi hoffi gweld "gwahanol fath o ddatganoli".

"Yn sicr, dyw datganoli heb chwythu lan yn ein hwynebau ni," meddai Mr Jones, oedd yn gyn-weinidog yn Swyddfa Cymru.

"Ydw i'n hapus efo'r polis茂au? Na. Cyn datganoli roedd addysg Cymru'n cael ei weld yn well nag addysg yn Lloegr - dyw e ddim nawr.

"Cyn datganoli roedd yr amser roeddech chi'n aros am lawdriniaeth yng Nghymru a Lloegr yr un peth, dyw hynny ddim yn wir nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jon Owen Jones (dde) gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael (canol) ac un arall o weinidogion Swyddfa Cymru, Peter Hain, yn 1998

Dywedodd fod gwleidyddion ym Mae Caerdydd, yn enwedig ym mlynyddoedd cynnar datganoli, wedi canolbwyntio'n ormodol ar "wrthod gwneud pethau roedd Lloegr yn eu gwneud".

"'Dyn ni'n meddwl mwy am beth 'dyn ni yn erbyn na beth 'dyn ni o blaid, a phan gawson ni'r cyfle i wneud pethau ar wah芒n, beth wnaethon ni oedd bod yn erbyn pethau roedd pobl eraill eisiau gwneud," meddai.

"Fel cenedl, anaml iawn 'dyn ni wedi cael y fraint o wneud penderfyniadau, mae rhywun arall wedi'u gwneud nhw [drosom ni].

"'Dyn ni'n gyfarwydd iawn gyda dweud pam fod penderfyniadau pobl eraill yn anghywir - 'dyn ni ddim yn gyfarwydd iawn gyda dweud 'dwi'n meddwl mai dyma beth ddylen ni neud'."

'Gwendid' Llafur

Collodd Mr Jones ei sedd yn etholiad cyffredinol 2005 pan gafodd ei drechu gan y Democrat Rhyddfrydol, Jenny Willott.

Yn y cyfnod ers hynny mae'n dweud ei fod wedi ystyried ymuno 芒 Phlaid Cymru, gan ddweud ei fod yn "agos iddyn nhw ar sawl lefel".

Ond dywedodd nad oedd wedi gwneud hynny am ei bod hi'n "hurt" fod y blaid yn galw am annibyniaeth ac ar yr un pryd yn gofyn am fwy o arian o San Steffan.

"Mae 'na wendid wedi bod yn sicr yn arweinyddiaeth y blaid Lafur, ond mae'r gwendid yna'n ddim [o'i gymharu 芒'r] pleidiau eraill," meddai.

"Mae'n rhaid i chi gael dewis, ac os 'dych chi'n meddwl bod angen newid y blaid sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd, mae angen newid e am rywbeth!"

Ychwanegodd: "Mae sefyllfa Plaid Cymru ers degawd a mwy wedi bod yn anobeithiol.

"Bydde fe'n dda os bod ni'n cael gwahanol lywodraethau o fewn Cymru, ond does 'na ddim dewis."