Cyn-gapten Cymru Sam Warburton yn ymddeol o rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Sam Warburton wedi ymddeol o rygbi oherwydd anafiadau ag yntau ond yn 29 oed.
Dyw blaenasgellwr Gleision Caerdydd ddim wedi chwarae ers arwain y Llewod ar y daith i Seland Newydd yn haf 2017.
Mae Warburton wedi dioddef gydag anafiadau i'w ben-glin a'i wddf trwy'r tymor diwethaf, sy'n golygu nad yw wedi gallu chwarae.
Fe enillodd 74 cap dros Gymru - 49 o'r rheiny fel capten - a phump dros y Llewod yn ystod ei yrfa.
Fe wnaeth Warburton hefyd arwain Cymru i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012 a'r Llewod i fuddugoliaeth yn y daith i Awstralia yn 2013.
Doedd y blaenwr ddim ar ar gael i Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar 么l iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.
'Anhygoel o falch'
Roedd wedi ailddechrau hyfforddi gyda'r Gleision dros yr haf, ond dywedodd ei fod wedi sylweddoli na fyddai'n gallu chwarae ar y lefel uchaf oherwydd ei anafiadau.
"Yn anffodus, ar 么l cyfnod hir o orffwys ac adfer, fe wnes i benderfynu ymddeol o rygbi oherwydd bod fy iechyd a'n lles yn flaenoriaeth, oherwydd dyw fy nghorff ddim yn gallu rhoi'r hyn roeddwn yn gobeithio amdano i mi," meddai.
"Wrth edrych yn 么l ar fy ngyrfa rwy'n anhygoel o falch o'r hyn rydw i wedi llwyddo i'w gyflawni.
"Rydw i eisiau diolch yn enwedig i Warren Gatland. Heb ei ffydd a'i gefnogaeth, fyddwn i erioed wedi cael yr yrfa y llwyddes i i'w dilyn."
Dadansoddiad Gohebydd Chwaraeon 大象传媒 Cymru, Cennydd Davies
G诺r diymhongar, ond yn gawr ar y cae - mae'r ystadegau yn dangos bod Sam Warburton yn hawlio'i le ymhlith oriel yr anfarwolion.
74 o gapiau dros Gymru, arwain ei wlad ar 49 achlysur, ac arwain y Llewod ar eu taith fuddugol yn Awstralia a'r daith gyfartal yn Seland Newydd y llynedd.
Mae Warburton wedi cyflawni cymaint ar hyd ei yrfa. Ei freuddwyd yn blentyn oedd cynrychioli'r Gleision, Cymru a'r Llewod, ac mae'r freuddwyd honno yn fwy na wedi'i gwireddu.
Y trueni mwyaf yw bod rhywun sydd wedi'i lethu ag anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi'i orfodi yn y pendraw i roi'r gorau iddi yn 29 oed.
Diolch am yr atgofion.
Dywedodd Gatland bod ymddeoliad Warburton yn "newyddion hynod siomedig".
"Mae'n chwaraewr rygbi gwych ac mae wedi rhoi cymaint i'r g锚m, ar y cae ac oddi arno," meddai prif hyfforddwr Cymru.
"Mae ei arweinyddiaeth, ei agwedd, ei ymddygiad a'i berfformiadau wedi roi Sam yno fel un o'r chwaraewyr gorau ac uchaf eu parch yn y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017