Cytundeb coed: Cyfoeth Naturiol Cymru 'allan o reolaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae prif gorff amgylcheddol Cymru yn edrych fel eu bod nhw "allan o reolaeth", yn 么l AC Llafur.
Daw sylwadau Lee Waters wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gael eu beirniadu eto am gytundebau coed gan y corff sy'n goruchwylio gwariant cyhoeddus.
Fe wnaeth CNC arwyddo 59 cytundeb gyda thri chwmni, wedi iddyn nhw gael eu beirniadu am gytundeb gafodd ddim ei roi i dendr.
Dywedodd yr archwilydd cyffredinol Huw Vaughan Thomas fod rhai o'r cytundebau coed hynny ddim yn gyfreithiol.
'Llygredd neu anallu?'
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Mr Waters, AC Llanelli, fod y sefyllfa'n "warthus".
"Beth sy'n mynd ymlaen yn CNC fel bod rhaid codi cwestiynau am eu cyfrifon am y drydedd flwyddyn yn olynol? Mae'n ddigynsail ac yn warthus a dweud y gwir," meddai.
"Dwi'n ei chael hi'n anodd meddwl am esboniad yngl欧n 芒 hyn. Ai llygredd neu anallu yw hyn?
"Mae'n ymddangos fel bod adran goedwigaeth CNC allan o reolaeth. Dwi'n meddwl bod angen atebolrwydd gan arweinyddiaeth y sefydliad yma."
Ychwanegodd ei fod yn "galonogol" bod prif weithredwr newydd CNC, Clare Pillman, i'w gweld yn "cymryd y materion o ddifrif".
"Ond beth am y cadeirydd Diane McCrea, ble mae hi wedi bod? Sut allai hi adael i hyn ddigwydd eto?" meddai Mr Waters.
"Hi oedd yn gyfrifol y llynedd. Dwi'n meddwl bod hyn yn rheswm i feddwl a phwyllo cyn creu sefydliadau mawr fel hyn.
"Petai hwn yn awdurdod lleol, fe fydden nhw wedi cael eu rhoi mewn i fesurau arbennig."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths ei bod hi'n "cytuno'n llwyr" gyda Mr Waters, a'i fod yn "fater difrifol tu hwnt".
Ychwanegodd ei bod wedi cyfarfod Ms McCrea ddydd Llun a'i bod yn "adlewyrchu ar y sgwrs honno".
Dywedodd Nick Ramsay, cadeirydd pwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad, y byddai'r pwyllgor yn ailedrych ar y mater yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2017