Geraint Thomas yn ennill cymal arall ar y Tour de France
- Cyhoeddwyd
Mae Geraint Thomas wedi cadw'r crys melyn ac ymestyn ei fantais yn y Tour de France ar ôl ennill cymal arall.
Llwyddodd Thomas i agor bwlch ar gornel olaf y 12fed cymal i fyny'r Alpe d'Huez i gipio'r ras o flaen Tom Dumoulin.
Roedd y Cymro wedi cipio'r crys melyn ddydd Mercher oddi wrth Greg van Avermaet yn dilyn buddugoliaeth ar gymal 11.
Mae bellach wedi ymestyn ei fantais i funud a 39 eiliad dros ei gyd-seiclwr Team Sky, Chris Froome, yn y dosbarthiad cyffredinol.
Gorffennodd Froome yn bedwerydd yn y cymal y tu ôl i Romain Bardet.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Thomas, 32, yw'r seiclwr cyntaf o Brydain i ennill ar yr Alpe d'Huez, a'r cyntaf erioed i goncro'r mynydd wrth wisgo'r crys melyn.
"Does gen i ddim geiriau. Doedd dim siawns o gwbl y bydden i'n ennill heddiw. Nes i jyst ddilyn Dumoulin a Froome," meddai'r gŵr o Gaerdydd.
"Allwn ni jyst fynd i Baris nawr?"
'Dal yn cynorthwyo'
Steven Kruijswijk oedd yn arwain y cymal am y rhan fwyaf o'r dydd, cyn cael ei ddal gan grŵp oedd yn cynnwys Thomas, Froome, Dumoulin, Bardet a Mikel Landa.
Cyrhaeddodd y pump ohonyn nhw ddiwedd y cymal gyda'i gilydd, cyn i Thomas ennill y sbrint i'r llinell.
Ond er ei ail fuddugoliaeth yn olynol, mynnodd Thomas ei fod yn parhau i wasanaethu fel seiclwr cynorthwyol i Froome.
"Mae'r ras yma mor anodd dydych chi ddim yn gwybod sut wnaiff y corff ymateb," meddai.
"Dwi dal yn reidio i Froomey, mae e'n gwybod sut i reidio am dair wythnos. Mae e'n gawr, un o'r goreuon erioed."