大象传媒

Ateb y Galw: Yr actor Steffan Rhodri

  • Cyhoeddwyd
Steffan RhodriFfynhonnell y llun, Catrin Arwel

Yr actor Steffan Rhodri sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan William Thomas.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae gyda ph锚l fach las yng ngardd Anti Wini yng Nghlydach.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Nes i feddwl am rai merched yn benodol, ond gwell peidio'u henwi nhw... felly Goldie Hawn!

Ffynhonnell y llun, Jean Baptiste Lacroix
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ail ddewis ydy Goldie Hawn i Steffan... ond chawn ni ddim gwybod pwy sydd gyntaf

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Methu perfformio yn y West End un noson, ar 么l i mi ddihuno yn y bore 'da llygad ddu a dim syniad sut ges i hi...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos yma, er dwi'n twyllo 'chydig bach, gan mod i'n gorfod cr茂o yn y ddrama dwi ynddi hi yn Llundain ar hyn o bryd. Ond dwi'n cr茂o'n eitha' hawdd 'ta beth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta'n rhy gyflym ac yn rhy fl锚r - byddai fy nghariad yn cytuno 芒 hynny!

O Archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Sir Benfro yn gyffredinol, ond Abereiddi yn benodol. Hyfryd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw un o'r nosweithiau ar wylie llynedd tra'n gwylio'r haul yn machlud yn Kimolos yng Ngwlad Groeg. Dwi'n mynd yn 么l 'na 'leni.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwnaeth Kimolos gymaint o argraff ar Steffan, fel ei fod am ddychwelyd eto eleni

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Aflonydd, diog, optimistaidd.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Twelve Angry Men. Mewn ffordd, mae'n eitha' unigryw dy fod ti'n gweld perfformiadau actio mor dda, achos bod e i gyd wedi ei leoli mewn un 'stafell.

Mae yngl欧n 芒'r cymeriadau a'r ddrama rhyngddyn nhw, felly mae'n syml iawn yn hynny o beth. Ond mae e hefyd yngl欧n ag anghyfiawnder a sut i'w orchfygu.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Tolstoy. Dwishe mynd i Rwsia, yn enwedig Rwsia wledig, ac roedd e'n teithio lot drwy ganoldir Rwsia. Felly 'sen i ishe trafeili rownd yn ei gart e a chael diod 'da fe. A hefyd, dwi ishe rhywun i'n ysbrydoli fi i ddechre sgrifennu, a dwi methu meddwl am neb gwell na Tolstoy!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Steffan yn credu y byddai Leon Tolstoy wedi bod yn gyd-deithiwr difyr ac yn ysbrydoliaeth iddo ddechrau ysgrifennu - ond beth am ysgrifennu bethau llai trwm na nofelau'r g诺r o Rwsia...?!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae'n gynnar iawn, gan ma un wers dwi wedi ei chael hyd yma, ond dwi newydd ddechrau barcud-syrffio (kitesurfing).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y m么r, bwyta'r bwyd gore a mwynhau cwmni'r rheiny dwi'n eu caru.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Emyn Pantyfedwen. Achos mod i mas o Gymru gymaint, bob tro dwi'n dod dros Bont Hafren, ar 么l i mi dalu'r doll, dwi'n rhoi Pantyfedwen mla'n ac yn canu'r holl beth drwyddi (y rhan bas)!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Coquilles St Jacques, cinio Dydd Sul cig oen a hufen i芒 Joe's gyda mwyar duon.

Ffynhonnell y llun, 大象传媒/BABY COW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Steffan yn actio cariad Nessa, Dave Coaches, yn y gyfres boblogaidd 'Gavin & Stacey'

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gofodwr - yn enwedig un sy'n mynd mas o'r roced a cherdded ar y lleuad!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Catrin Arwel