大象传媒

Cyhuddo Cyngor Ynys M么n o roi rhieni 'dan bwysau'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bodorgan

Mae rhieni ar Ynys M么n yn dweud eu bod wedi eu "lluchio i gornel" gan y cyngor, er mwyn iddynt allu cau ysgol yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.

Roedd disgwyl i Ysgol Bodorgan gau ym mis Mawrth 2019, wrth i'r 11 disgybl symud i safle newydd sbon yn Niwbwrch - Ysgol Santes Dwynen.

Mewn dathliad diwedd tymor ddydd Gwener daeth hi'n glir i rieni na fyddai Ysgol Bodorgan yn ail-agor mis Medi.

Dywedodd y cynghorydd Meirion Jones bod "trafodaethau wedi eu cynnal gyda'r rhieni cyn bod unrhyw benderfyniad wedi ei wneud".

Teimlo 'dan bwysau'

Mae nifer o rieni'n honni fod y cyngor wedi rhoi pwysau arnyn nhw mewn cyfarfodydd ac yn ystod galwadau ff么n yn ceisio eu perswadio i symud ysgol.

Mae merch Kimberley Edwards wedi bod yn ddisgybl ac roedd y mab ieuengaf i fod i ddechrau ym mis Medi, ac yn 么l hi nid oedd ganddi ddewis ond symud ei phlant i'r safle newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kimberley Edwards yn credu oedd gan rieni opsiwn arall gan fod cymaint o bwysau arnynt

"Rydw i am yrru fy mhlant i Niwbwrch oherwydd does yna ddim opsiwn arall, mae'r peth yn ofnadwy.

"Roedden ni'n teimlo pwysau arnom ni, fel nad oedd gennym ni opsiwn arall oherwydd eu bod nhw'n defnyddio'r athrawon fel esgus.

Plant yw'r 'flaenoriaeth'

Mae Ysgol Bodorgan yn un o bedair ysgol leol sydd yn cau gyda'r bwriad o symud disgyblion i Ysgol Santes Dwynwen.

Mewn datganiad dywedodd Mr Jones, sy'n gyfrifol am addysg ar Gyngor Sir Ynys M么n, eu bod nhw wedi cael "consensws rhieni" i drosglwyddo plant o Ysgol Bodorgan i Ysgol Niwbwrch o fis Medi 2018 ymlaen.

"Cafwyd trafodaethau cyson gyda rhieni cyn gwneud penderfyniad. Rydym yn cydnabod bod y cyfnod yma wedi bod yn un heriol i'r plant, rhieni, staff a llywodraethwyr."

Ychwanegodd: "Addysg y plant oedd y flaenoriaeth bob cam o'r ffordd."

Mae nifer o rieni wedi deud eu bod nhw r诺an isio symud ymlaen a bydd yr 11 disgybl a'r saith aelod o staff yn trosglwyddo i'r safle newydd mis Medi.