Thomas mewn melyn ar 么l cymal allweddol 19 Tour de France

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Geraint Thomas yn gwibio i'r ail safle yng nghymal 19

Ar ddiwedd cymal 19 cymal all brofi'n allweddol i ganlyniad y Tour de France mae Geraint Thomas wedi cadw ei afael ar y crys melyn gyda bwlch o ddau funud dros Tom Dumoulin yn yr ail safle.

Primoz Roglic oedd yn fuddugol yn ras fynydd olaf y Tour ond yn fwy arwyddocaol fe orffennodd Thomas yn ddiogel ac yn yr ail safle.

Drwy wneud hynny fe sicrhaodd Thomas chwe eiliad o fonws amser sy'n golygu fod y bwlch rhyngddo fe a Dumoulin bellach yn 2'05".

Fe wnaeth y Cymro wibio heibio Dumoulin ar ddiwedd y ras 200 cilomedr Lourdes i Laruns.

Mae buddugoliaeth Roglic wedi ei godi i'r trydydd safle o flaen Chris Froome yn y dosbarthiad cyffredinol.

Ras 31 cilomedr yn erbyn y cloc yw cymal dydd Sadwrn - rhwng Saint-P茅e-sur-Nivelle ac Espelette.

'Safle da'

Tom Dumoulin yw pencampwr y byd yn erbyn y cloc, a Thomas yw pencampwr Prydain, ond mae Roglic a Froome hefyd yn gryf yn y math yma o rasio.

Ar ddiwedd y ras dywedodd Thomas: "Yn sicr rwy' mewn safle da ond rwy'n dal i geisio cadw fy nhraed ar y ddaear a pheidio 芒 meddwl am ennill y crys melyn.

"Unwaith i'ch meddwl ddechrau crwydro fe allwn wneud camgymeriadau.

"Mae gennyf fantais o ddau funud a dwi dal angen reidio'n dda ddydd Sadwrn. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn ddigon."

Fel arweinydd Thomas fydd yr olaf i gystadlu yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn, ac mae disgwyl iddo ddechrau tua 15:30.

Fe fydd y cymal olaf un ym Mharis ddydd Sul, ond yn 么l traddodiad, bydd neb yn herio'r cystadleuydd sy'n gorffen ar y brig ar 么l cymal 20.

Safloedd ar 么l cymal 19

1. Geraint Thomas ( 79awr 49mun 31eililad)

2. Tom Dumoulin +2mun 05eil

3. Primoz Roglic +2mun 24eil

4. Chris Froome +2mun 37eil

5. Steven Kruijswijk +4mun 37eil