Geraint Thomas: Her y cam olaf

Disgrifiad o'r llun, Llwyddodd Thomas i aros o flaen Tom Dumoulin ar gymal 19 ddydd Gwener

Ras yn erbyn y cloc yw'r unig beth sydd yn sefyll rhwng Geraint Thomas a buddugoliaeth yn y Tour de France.

Ar ddiwedd y cymal 31 cilomedr rhwng Saint-P茅e-sur-Nivelle ac Espelette byddwn yn gwybod pwy fydd yn y crys melyn ym Mharis ddydd Sul.

Mae traddodiad y Tour yn 'gorchymyn' nad oes unrhyw un yn herio arweinydd y ras ar y cymal olaf, felly byddai cadw'r crys melyn ddydd Sadwrn yn ddigon i'r Cymro.

Tom Dumoulin o'r Iseldiroedd, sydd tu 么l i Thomas yn yr ail safle, yw pencampwr y byd yn erbyn y cloc.

Mae Thomas ei hun yn bencampwr Prydain yn erbyn y cloc, a bydd yn gobeithio fod ei fantais o ddau funud a phum eiliad yn ddigon i'w gadw ar y brig.

Thomas v Dumoulin

Mae Thomas a Dumoulin wedi herio ei gilydd mewn 19 ras yn erbyn y cloc, gyda Dumoulin yn gyflymach mewn 18 o'r rheini.

Roedd Thomas saith eiliad yn gyflymach yn ail gymal Tirreno-Adriatico y tymor diwethaf - digwyddiad sydd yn arwain at y Giro d'Italia.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Geraint Thomas 2'05" eiliad ar y blaen i Tom Dumoulin sy'n ail yn y dosbarth cyffredinol

Dumoulin aeth ymlaen i ennill y Giro d'Italia, gyda Thomas yn gorfod tynnu 'nol yn dilyn gwrthdrawiad gyda beic modur yr heddlu.

Yn addawol i Thomas, dim ond tair gwaith yn ystod yr 19 ras flaenorol mae Dumoulin wedi llwyddo i guro Thomas o ddau funud neu fwy.

Y tro diwethaf oedd yng nghymal 13 Tour de France 2016, ond cefnogi Froome oedd Thomas ar y pryd, gyda Dumoulin yn anelu am fuddigoliaeth yn y cymal.

Felly, gyda'r fantais o ddau funud wrth gefn, bydd Thomas yn gobeithio parhau yn y crys melyn tan ddiwedd y Tour.