Galw am felodrom i ogledd Cymru i hybu seiclo
- Cyhoeddwyd
Mae angen felodrom yng ngogledd Cymru i sicrhau bod seiclwyr ifanc yn gallu ymarfer a chystadlu, yn 么l cadeirydd ymgyrch Ynys M么n i gynnal Gemau'r Ynysoedd.
Dywedodd Gareth Parry y byddai cyfleusterau o'r fath yn sicrhau cyfleoedd gwych i seiclwyr y dyfodol o'r ardal sy'n gorfod teithio i Fanceinion ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, mae tair felodrom yng Nghymru - Casnewydd, Caerfyrddin a Chaerdydd - lle bu enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, yn ymarfer pan yn ifanc.
Mae Chwaraeon Cymru'n dweud na wnaeth adolygiad diweddar i gyfleusterau chwaraeon yng Nghymru amlygu'r angen am felodrom yn y gogledd.
'Angenrheidiol'
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Mr Parry y byddai felodrom yn rhoi lle diogel i seiclwyr ymarfer.
"Byse cael felodrom yn g'neud coblyn o wahaniaeth ac yn cynnig rhywle saff i bobl gael ymarfer a gallu beicio...
"Faswn i ddim yn galw am wario llawer o arian ar gyfleusterau oni bai ei fod yn angenrheidiol.
"Ond dwi'n meddwl y byse felodrom yn hwb i bobl allu practisio gan nad ydy'r lonydd o gwmpas y gogledd yn ddiogel i blant a phobl ifanc allu ymarfer er mwyn iddyn nhw gael cystadlu."
Daw'r alwad wedi llwyddiant Geraint Thomas yn y Tour de France eleni - y Cymro cyntaf i ennill ras seiclo fwyaf y byd.
Wedi'r fuddugoliaeth, mae Cymro arall i gystadlu yn y Tour wedi dweud y dylai cymal gael ei chynnal yng Nghaerdydd.
'Drysau wedi agor'
Colin Lewis oedd y Cymro cyntaf i gwblhau'r ras, a hynny yn 1967, cyn ailadrodd y gamp ym 1968.
Gan fod cymalau o'r ras bellach yn cael eu cynnal y tu allan i Ffrainc, mae Mr Lewis o'r farn bod y "drysau wedi agor" i Gymru.
"Byddai'n ddrud i gael dechrau yng Nghaerdydd, ond mae'n ras mor fawreddog a gallai ddenu miloedd."
Ychwanegodd y gallai buddugoliaeth Thomas ddenu llawer o bobl ifanc i gymryd diddordeb yn y gamp.
Dim cynlluniau
Yn 么l y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas, mater i gorff Chwaraeon Cymru fyddai felodrom, gan ddweud nad ydyn nhw fel llywodraeth wedi cael cais am drac yn y gogledd.
Mewn datganiad, dywedodd Chwaraeon Cymru nad oedd adolygiad diweddar i gyfleusterau chwaraeon wedi amlygu'r angen am felodrom yn y gogledd, na chwaith oedden nhw'n ymwybodol o gynlluniau gan eu partneriaid.
"Er bod defnyddio felodrom wedi bod yn rhan bwysig o lwyddiant Geraint Thomas, nid felodrom yn unig sydd wrth wraidd hynny.
"Drwy gydol ei yrfa, mae Geraint hefyd wedi cymryd rhan mewn gwahanol fathau o gystadlaethau seiclo gan gynnwys BMX, ar y ffordd a cyclocross - mae 'na gyfleusterau ardderchog o'r math yma yn y gogledd.
"Eleni mae Chwaraeon Cymru wedi cyfrannu 拢1m tuag at gynlluniau Seiclo Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2018