大象传媒

Bryn Terfel i ddathlu 'ei arwr' yn y cyngerdd agoriadol

  • Cyhoeddwyd
Syr Bryn

Bydd Syr Bryn Terfel yn camu i lwyfan pafiliwn y brifwyl eleni i ddathlu ei "arwr" Paul Robeson yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Union 60 mlynedd ers ymweliad Robeson a'r brifwyl yng Nglyn Ebwy, bydd Syr Bryn yn serennu yn noson agoriadol Caerdydd.

"Mae Paul Robeson yn arwr i fi, o'r cychwyn cyntaf," meddai Mr Terfel wrth drafod ei benderfyniad i berfformio yn y sioe 'Hwn yw fy Mrawd'.

Ar nos Wener 3 Awst bydd y cyngerdd agoriadol yn cael ei gynnal gyntaf, cyn iddo gael ei ail-berfformio ar nos Sadwrn 4 Awst.

Yn ganwr ac yn actor, roedd Robeson hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol dros fudiad hawliau sifil yr UDA ac achosion cyfiawnder cymdeithasol.

Daeth i Gymru i gefnogi glowyr cymoedd y de, tra bod ei ddiddordeb mewn comiwnyddiaeth wedi arwain at ei feirniadu'n gyhoeddus yn America yn ystod cyfnod McCarthy.

Disgrifiad,

Bryn Terfel yn dalthu bywyd Paul Robeson

'Llais arbennig'

Athro cerddoriaeth o'r enw Mr Jones ydy Syr Bryn mewn sioe fydd yn cael ei ailadrodd nos Sadwrn, y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnal cyngerdd agoriadol ddwywaith.

Hanes sydd werth ei ail-adrodd, yn 么l Syr Bryn Terfel: "Os oes yna stori i'w ddweud, mae stori Paul Robeson yn amryliw.

"Boed yn ganwr, boed yn actor, boed yn rhywun oedd ar ffilmiau, neu boed yn rhywun oedd yn rhoi ei ddwylo, ei adenydd, o gwmpas y rhai sydd yn cael eu sathru."

Wrth astudio yn llyfrgell y Guildhall yn Llundain glywodd Syr Bryn llais Paul Robeson am y tro cyntaf.

Mae'n cofio'r "llais bas profundo arbennig yma," ond hefyd yn edmygu "nid yn unig ei ddawn fel perfformiwr, ond ei ddelweddau cadarn o hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y cyngerdd agoriadol yn cael ei chynnal 3 a 4 Awst.

Bydd y sioe yn dathlu Robeson a'i gysylltiadau 芒 Chymru, gyda cherddoriaeth gan Robat Arwyn a libreto gan Mererid Hopwood.

Hwn ydy ffrwyth blynyddoedd o waith i greu sioe fydd yn talu teyrnged i Robeson, ac mae ei deulu wedi rhoi s锚l bendith i'r cynhyrchiad.

"Heb roi llawer i ffwrdd am y sioe ei hun, mae'r ddwy gan gynta' dwi'n perfformio ymhlith y rhai gorau dwi erioed wedi'u perfformio ar lwyfan Eisteddfod," meddai Syr Bryn.

"Mae'r ddeuawd o Robat Arwyn a Mererid Hopwood yn rhywbeth hollol arbennig. Y ddau wedi cydweithio yn gampus efo'i gilydd i greu sioe wahanol, ond diddorol."

Profiadau bythgofiadwy

Wedi ymgartrefu ym Mhenarth erbyn hyn, mae cael y Brifwyl ar stepen drws yn ysgogi Syr Bryn i gofio'r teithiau hir dros Gymru i gystadlu.

"Dwi wedi cael 'yn rhwytho ym maes yr Eisteddfod, dwi wedi 'ym mwydo i fod yn un oedd yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol, a'r ffaith bod mis Awst yn mynd i fod yn rhywbeth oedd yn coroni'r cyfan.

"Na'i byth anghofio ennill yng Nghaerdydd, pan o'n i'n gwta bymtheg oed, yr unawd cerdd dant, a chyrraedd gartre ar 么l yr wythnos, a'r holl lythyrau a chardiau yn dweud llongyfarchiadau.

"Oedd hyn yn deud i mi, wel, ella bydd rhaid i mi gystadlu blwyddyn nesa. Mae'n anodd iawn i chi ennill yn y Genedlaethol, cofiwch!

"Ac mae'n bwysig bod y llwyfan yma. Dim ots ym mha ardal, dim ots os ydy o yng Nghaerdydd. Bod yr ifanc yna yn cystadlu, a bod ni fel cenedl yn ei mwynhau hi."