大象传媒

Cyflwyno Medal Goffa TH Parry Williams i Meinir Lloyd

  • Cyhoeddwyd
Medal
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llywydd Llys yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones wnaeth gyflwyno'r fedal i Meinir Lloyd

Mae Meinir Lloyd o Gaerfyrddin wedi cael ei chyflwyno 芒 Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Brifwyl am "ei chyfraniad neilltuol i'w hardal leol".

Mae Mrs Lloyd wedi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yn ardal Caerfyrddin ers blynyddoedd - nifer ohonynt yn enillwyr cyson mewn eisteddfodau a'r 糯yl Gerdd Dant.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio 芒 phobl ifanc.

'Yr anrhydedd mwyaf'

"Mae'n deimlad bendigedig. Pan ges i'r alwad 'mod i wedi ennill o'n i methu credu'r peth," meddai.

"Rwy'n falch iawn iawn a'n sicr dyma'r anrhydedd mwyaf dwi wedi'i gael.

"Y pleser mwyaf yw gweld y corau ar y llwyfan 'na. 'Chi'n mynd trwy'r dysgu a'r cystadlu - ddim yn ennill pob tro wrth gwrs, ond pan 'chi yn dod i'r brig mae'n rhoi'r pleser mwyaf i chi ei fod o werth o."

Cafodd Mrs Lloyd ei magu ym mhentref Cyffylliog ger Rhuthun, gan ddod o dan ddylanwad hyfforddwyr lleol pan oedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd.

Datblygodd fel telynores a chantores, gan ennill yn gyson mewn gwyliau cenedlaethol.

Ers ymgartrefu yng Nghaerfyrddin yn 1972, mae hi wedi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc yr ardal.

Am flynyddoedd bu'n hyfforddi part茂on myfyrwyr Coleg y Drindod a sefydlodd barti bechgyn Bois y Dderwen, ac yn ddiweddarach g么r merched Telynau Tywi.

Bu hefyd yn organydd yng Nghapel y Priordy, Caerfyrddin, am dros 45 mlynedd, gan drefnu cyngherddau a chymanfaoedd canu.

'Teimlo rheidrwydd i roi 'n么l'

"Mae gwirfoddolwyr yn bwysig iawn wrth gadw'r traddodiad i fynd," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ges i fy magwraeth ym mhentref bach Cyffylliog yn Nyffryn Clwyd - a ges i fy nylanwadu yn gerddorol gan rai yn y pentref.

"Dwi'n meddwl 'mod i'n teimlo rhyw reidrwydd i roi 'n么l yr hyn ges i yn ystod fy magwraeth, ac rwy'n gobeithio 'mod i wedi rhoi 'n么l cymaint ag y cefais i o'r bobl fu'n fy nysgu i."