大象传媒

Rhydian Gwyn Lewis yn ennill y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
rhydian

Rhydian Gwyn Lewis sydd wedi ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 am ei ddrama 'Maes Gwyddno'.

Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon ond mae bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd. Bu'n ddisgybl yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, a mynychodd Ysgol Glanaethwy lle cafodd ei flas cyntaf ar ysgrifennu dramatig.

Aeth ymlaen i astudio Cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau gradd Meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ysgrifennu creadigol.

Derbyniodd Y Fedal Ddrama er cof am Urien Wiliam a 拢750 ar lwyfan Pafiliwn HSBC mewn seremoni arbennig ddydd Iau. Cafodd y Fedal ei rhoi am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Yn dilyn y seremoni, dywedodd wrth Cymru Fyw fod y profiad yn un "eithaf rhyfedd, a poeth hefyd yn y clogyn."

"Ges i wybod tua deufis yn 么l, ac roedd o'n brofiad rhyfedd iawn i gadw'r gyfrinach am amser mor hir."

Diolchgar iawn i'r beirniaid

Ychwanegodd Rhydian Lewis: "Dwi'n ddiolchgar iawn i'r beirniaid am eu sylwadau, mae hi'n bwysig dangos gwaith fel hyn i bobl er mwyn clywed barn pobl eraill.

"Gobeithio y byddai'n gallu parhau i ddysgu a pharhau i weithio ar y ddrama er mwyn ei gwella hi, a gobeithio rhywbryd yn y dyfodol cael cyfle i'w llwyfannu hi."

Ychwanegodd fod cyfnod o actio ar y gyfres ddrama sebon 'Rownd a Rownd' ar S4C wedi bod o gymorth iddo.

"Drwy actio sgriptiau drwy'r dydd bob dydd mae rhywun yn ymddiddori yn y sgriptiau ei hun."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Betsan Llwyd fod y fdeialog yn llifo'n rhwydd a naturiol yn y ddrama 'Maes Gwyddno'

Y beirniaid eleni oedd Sarah Bickerton, Betsan Llwyd ac Alun Saunders. Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan, disgrifiodd Betsan Llwyd y ddrama 'Maes Gwyddno' gan 'Elffin', gan ddweud:

"Tafarn yn Grangetown, Caerdydd yn y flwyddyn 2051, mae Cymru ar fin cael ei llyncu'n llwyr gan Loegr, ac mae criw o bobl ifanc yn paratoi i brotestio'n derfysgol. Mae'r sefyllfa'n denu sylw, ac ymdriniaeth y dramodydd ohoni'n tanio a chynnal diddordeb, gyda thensiwn yn cynyddu drwyddi.

"Ar y cyfan caiff y manylion eu datgelu'n grefftus; mae'r ddeialog yn llifo'n rhwydd a naturiol, ac o ran llwyfaniad mae yma ddefnydd dyfeisgar o daflunio.

"Ond mae 'na elfennau na茂f yma hefyd... e.e. mae'r datblygiadau stor茂ol braidd yn annhebygol; a rhaid gofyn beth yn union yw gwirionedd y byd newydd yma - felly mae angen twrio'n ddyfnach i hyn er mwyn gosod seiliau cadarnach i lywio cymhelliant y cymeriadau; mae yma ymdrech i benodi nodweddion gwleidyddol a phersonol amrywiol iddynt, ac er nad oeddem yn gyt没n ar lwyddiant y dramodydd i greu cymeriadau 芒 lleisiau unigryw, yn sicr mae ganddo ef neu hi rywbeth pwysig i'w ddweud."

Bu Rhydian Gwyn Lewis yn aelod o gast Rownd a Rownd am wyth mlynedd ac, o ganlyniad, dechreuodd ymddiddori ymhellach ym myd y ddrama.

Disgrifiad,

Rhan o seremoni'r Fedal Ddrama ddydd Iau

Bellach, mae'n gweithio fel golygydd sgript i gyfres Pobol y Cwm ers bron i bum mlynedd. Mae'n ddiolchgar iawn i'r gyfres am y cyfle i gydweithio gydag ystod eang o awduron ac actorion profiadol, ac mae bod yn rhan o d卯m golygyddol rhaglen o'r fath wedi dysgu llawer iddo am ysgrifennu dramatig.

Yn 2016, cafodd ei ffilm fer, 'Atal', ei chynhyrchu fel rhan o brosiect 'It's My Shout', a bu gweld ei waith yn cael ei ddarlledu ar y teledu yn ysgogiad i Rhydian barhau i ysgrifennu. Daeth yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd ac roedd hynny hefyd yn hwb iddo ddal ati i ysgrifennu.

Yn ei amser hamdden, mae'n hoff o greu a gwrando ar gerddoriaeth. Bu'n brif leisydd a gitarydd y band Creision Hud am sawl blwyddyn ond mae bellach yn aelod o gr诺p y Rifleros.