Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pump peth ry'n ni wedi dysgu o Steddfod Caerdydd
Mae Eisteddfod Genedlaethol 2018 ar ben, ac mae'r sylw yn troi at Ddyffryn Conwy pan fydd Llanrwst yn cynnal Eisteddfod 2019.
Ond beth wnaethon ni ddysgu o'r Eisteddfod yng Nghaerdydd? Y gomed茂wraig Esyllt Sears sy'n rhannu ei barn...
Pum peth ni 'di dysgu o Steddfod Caerdydd
1. Dyw Caerdydd ddim rhy 'shabby' o gwbl
Ches i ddim fy mygio. Ches i ddim cynnig cyffuriau. Wnaeth neb boeri yn fy wyneb am siarad Cymraeg (heblaw bo' chi'n cyfri byd rhithiol Twitter a Marcus Stead). Chafodd teyrnwialen yr Archdderwydd ddim ei chymryd gan gang moped lleol. Ddeffrodd Arthur ddim o'i drwmgwsg.
Wrth gwrs, cafwyd ychydig o niggles, gyda rhai yn fwy difrifol nag eraill, felly nid da lle gellir gwell.
Ond nid oedd un o'r elfennau diffygiol i'w wneud gyda'r ffaith fod y Steddfod yng Nghaerdydd.
Mae modd bod yn wreig-gasaol a hiliol yng nghanol cae, wrth gwrs.
2. Does dim rhaid hoffi cerdd dant a barddoni er mwyn mwynhau Eisteddfod
I fod yn deg, mae'r Eisteddfod wedi bod yn cynnig pethau amgenach i'r arlwy draddodiadol ers sawl blwyddyn bellach, ond eleni oedd y tro cyntaf i fi deimlo bod holl elfennau'r 诺yl wedi dod at ei gilydd, ar yr un pryd.
O Garnifal y M么r a'r 糯yl Gomedi i Mas ar y Maes, a chroesawu Geraint Thomas adre; i gyd ar gefndir mwy traddodiadol Eisteddfodol.
Ond wn芒i ddadlau taw un peth fyddai'n helpu fi i fwynhau'r Eisteddfod hyd yn oed mwy y tro nesa, fyddai cyflwyno ardal chwarae soft play i blant yn y bar. Jest am bum munud tawel i fwynhau peint.
3. Gwireddwyd yr honiad taw hon fyddai'r Eisteddfod fwyaf gynhwysol erioed
Beth mwy allai ddweud am hyn nad sydd wedi ei ddweud yn barod?
Gewch chi ddim g诺yl fwy gynhwysol nag un sy'n hapus i hyd yn oed Alun Cairns fynychu.
4. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn dda i chi ac i'r genedl
Gwn nad n么d awdl Gruffudd Owen oedd cyfiawnhau gwastraffu amser ar Twitter, i'r gwrthwyneb llwyr.
Ond wrth i Garmon Ceiro [trydarwr poblogaidd] dderbyn name check yn awdl fuddugol cystadleuaeth y Gadair eleni, allai ddim help teimlo bod yr holl oriau a wastraffwn ni ar-lein yn darparu awen werthfawr i feirdd.
Er lles llenyddiaeth Gymraeg. Er lles Cymru. Mewngofnodwch.
5. Ni'n mynd i fod yn olreit, bois
Chi'n gwybod beth, wi'n credu bo' ni'n mynd i fod yn olreit.
Ar 么l pedwar diwrnod ar y 'maes', wi'n hapus am y tro fod yr iaith, hen draddodiadau a'r gallu i ddatblygu traddodiadau newydd yn saff.
A chyn belled mae'r Eisteddfod ei hun yn y cwestiwn...
Wi dal i gredu'n gryf bod angen i'r Steddfod deithio i bedwar ban Cymru ond mae'r 诺yl ddiweddaraf yma wedi fy argyhoeddi bod modd arbrofi gyda ffurf yr Eisteddfod.
Felly, edrychaf ymlaen at ei chroesawu i fy nhref enedigol, Aberystwyth, yn y dyfodol gyda'r Lle Celf yn yr Hen Goleg, Gigs Cymdeithas ym Mhencadlys Merched y Wawr, Arddangosfeydd Coginio yng nghaffi Spartacus, Talwrn y Beirdd yn Greggs a'r Pafiliwn ar y Pier.
Efallai o ddiddordeb...
Cofiwch y gallwch weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod a fideos o uchafbwyntiau'r cystadlu ar ein gwefan arbennig.