Ymgyrch i ddenu mwy o ddigwyddiadau i safle Sioe M么n
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Sioe M么n yn dechrau ymgyrch o'r newydd i geisio denu mwy o ddigwyddiadau i'r safle drwy gydol y flwyddyn.
Yn 么l cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol M么n mae 'na bwyllgor codi arian hefyd wedi'i ailsefydlu er mwyn talu am fwy fyth o gyfleusterau parhaol ar y maes.
Dywedodd Ieuan Williams wrth raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru: "Eleni mae 'na floc toiledau a chawodydd newydd wedi ei gwblhau yn ogystal ag ardal newydd i drin gwartheg.
"Be' 'da ni yn ceisio ei wneud ydy denu mwy o bethau yma ar wah芒n i gynnal y Primin ym mis Awst."
Hyd at 60,000 o ymwelwyr
Cafodd safle presennol 136 erw y Primin ger Gwalchmai ei brynu gan y gymdeithas yn yr 1970au, ac ers hynny mae sawl adeilad parhaol wedi'i godi ar y maes.
Mae Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Mudiad y Ffermwyr Ifanc wedi'u cynnal ym Mhafiliwn M么n ar y safle.
Mae disgwyl i Sioe M么n ddenu hyd at 60,000 o ymwelwyr dros y deuddydd nesaf.
Un sy'n cofio'r holl newidiadau ydy llywydd y sioe eleni, Geraint Roberts o Gefn Arthen, Brynsiencyn.
Bu'n stiwardio yn adran y moch am ddegawdau cyn dod yn brif stiward yn 1992, a bydd y teulu yn parhau i gefnogi'r cystadlu yn eleni hefyd.
Dywedodd Mr Roberts: "'Dan ni fel teulu wedi bod yn cystadlu ers chwarter canrif yn adran y moch, a bydd gweddill y teulu yn dal i wneud eleni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2017