Ymdrechion i geisio lleihau problem sbwriel Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae yna gyfrifoldeb ar bobl Aberystwyth i sicrhau fod cynllun casglu sbwriel newydd yn llwyddiant, medd cynghorydd lleol.
Mae biniau cymunedol wedi eu gosod ar Rodfa'r Gogledd yn dref, fel rhan o gynllun peilot Cyngor Ceredigion i fynd i'r afael 芒 phroblem sbwriel.
Roedd gweld annibendod ar hyd y strydoedd wedi dod yn olygfa gyffredin, wrth i wylanod ac anifeiliad eraill wasgaru sbwriel o fagiau du.
Bellach, mae'r cyngor sir wedi darparu biniau 芒 chaead diogel i gadw'r gwastraff.
Problemau cychwynnol
Mae trigolion Aberystwyth wedi bod yn galw am ddatrysiad i'r sefyllfa ers misoedd lawer.
Ond roedd problemau cychwynnol i'r cynllun, wedi i gasglwyr sylwi bod bagiau gwastraff cyffredinol wedi eu rhoi yn y bin ailgylchu fore Mawrth.
O'r herwydd, doedd dim modd eu casglu.
Wrth siarad am sefyllfa sbwriel y dref, dywedodd un cynghorydd lleol bod datrysiad hirdymor y broblem yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun peilot, yn ogystal 芒 chynlluniau eraill sydd ar y gweill gan Gyngor Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol bod "sawl syniad" yn cael eu trafod.
"Bydd raid i ni edrych am ateb arall ar rai o'r strydoedd o achos eu bod yn gulach a does dim gymaint o le i roi'r biniau ag olwynion yma lawr.
"Mae'n dibynnu'n hollol ar beth ddysgwn ni ar y cynllun peilot yma," meddai, "ond y gobaith yw bod 'da ni ateb erbyn y tymor gwyliau nesaf."
Ychwanegodd y cynghorydd tref a pherchennog siop, Ceredig Davies, ei fod yn awyddus i weld y biniau mawr yn cael eu cyflwyno ar hyd y dref.
"'Wy'n gobeithio bydd hwn yn llwyddiant, ac wedyn fyddwn ni'n gallu ymestyn e ar draws y dref i gyd."
Fodd bynnag, wedi'r dechrau ansicr wrth gasglu'r biniau, dywedodd fod cyfrifoldeb ar drigolion y dref i sicrhau fod biniau yn cael eu cadw yn y lle cywir.
"Mae problemau enfawr efo ni oherwydd mae poblogaeth mor fawr yn ganol dref, ac i fod yn deg i'r cyngor, mae 'na ddyletswydd ar unigolion yn y ffordd maen nhw'n rhoi sbwriel allan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd4 Awst 2017