Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adam Price yn lansio ei ymgyrch i arwain Plaid Cymru
Bydd Adam Price yn datgan ei fwriad i sicrhau annibyniaeth i Gymru erbyn 2030 wrth iddo lansio ei ymgyrch swyddogol i fod yn arweinydd Plaid Cymru nos Wener.
Ers cyhoeddi y byddai'n herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth mae Mr Price wedi galw am newid enw'r blaid i Blaid Newydd Cymru / New Wales Party mewn ymgais i ddenu mwy o bleidleiswyr.
Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr hefyd wedi galw am gynnydd o 1c mewn treth incwm er mwyn hybu addysg.
Bydd ei ymgyrch yn cael ei lansio mewn digwyddiad yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin nos Wener.
Mae AC Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth, hefyd yn herio Ms Wood am arweinyddiaeth y blaid.
Dywedodd Mr Price y byddai'n gobeithio sefydlu Plaid Cymru fel "plaid naturiol" Llywodraeth Cymru, gan ddilyn esiampl yr SNP yn Yr Alban.
Er hyn, credai fod y blaid wedi cyrraedd "croesffordd", a'u bod yn wynebu crasfa os nad oes newid cyfeiriad.
Mae'r cyn-Aelod Seneddol wedi datgan ei fwriad i ennill etholiadau 2021 a 2026 - ac yna dilyn hynny gyda refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.
Annibyniaeth erbyn 2030?
Dywedodd Mr Price: "Annibyniaeth yw'r rheswm wnes i ymuno 芒 Phlaid Cymru, a'r rheswm yr wyf dal yn aelod ar 么l 36 mlynedd.
"Rydw i wastad wedi bod yn gyson - dylwn anelu at sefydlu Cymru annibynnol cyn gynted 芒 phosib.
"Gall annibyniaeth byth fod yn opsiwn 'saff' neu 'chanol y ffordd', ac wrth geisio osgoi dweud pethau fyddai'n dychryn pleidleiswyr, dydyn ni ddim wedi dweud dim byd."
Ychwanegodd: "Dros yr wythnosau nesaf rwy'n gobeithio gallu perswadio aelodau'r blaid mai drwy fy ethol i fel arweinydd newydd bydd modd creu llwybr clir a chredadwy tuag at annibyniaeth Gymraeg."
Mae disgwyl i Blaid Cymru gyhoeddi enillydd yr etholiad ar 29 Medi, wythnos cyn cynhadledd y blaid yn yr Hydref.